Tudalen:Y Cychwyn.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Syllodd Owen Gruffydd yn hir ar ei wyr. Yna cododd a mynd at y ffenestr i dynnu'r bleind i lawr. Safodd yno am ennyd gan edrych allan i'r nos a gwneud sŵn dwys yn ei wddf. Wedi iddo ostwng y bleind dychwelodd yn araf i'w gadair, gan ddal i graffu ar Owen.

"Wyt . . . Wyt, wir, fachgan."

"Be', Taid?"

"'Rwyt ti'n fwy aeddfed nag yr on i'n meddwl dy fod di."

"Be' ydach chi'n feddwl, Taid?"

"Yr hyn ddeudist ti am roi cyfla i hogan Jane Davies druan, ac am 'Ymson y Llofrudd' . . . Hm . . . Ydi, mae'n bryd inni siarad efo chdi . . . Ydi . . . 'Dwyt ti ddim isio treulio d'oes yn y chwaral, 'wyt ti, Owen ?"

"Wel, i fod yn onast, nac ydw'. Pam?"

"Mae rhai ohono' ni yn y capal wedi bod yn sôn amdanat ti gan deimlo y dylen ni dy godi di i bregethu. 'Gawn ni. . . 'gawn ni siarad efo Mr. Morris yn dy gylch di?"

"Os . . . os ydach chi'n meddwl 'mod i'n ddigon da, Taid." "Does neb yn ddigon da, yn wir deilwng, 'machgan i. Ond mae rhai sy'n fwy addas na'i gilydd i lefaru tros yr hwn ni wnaeth bechod ac ni cheid twyll yn ei enau. 'Rydan ni'n meddwl dy fod di'n un o'r rheini, Owen, ac y byddi di, wedi iti gael dy draed yn sicr ar ffordd yr efengyl, yn weinidog da i Iesu Grist. A thrwy ffolineb pregethu, chwedl yr Apostol, fe wêl yr Arglwydd yn dda dy wneud di'n nerth ac yn . . ." Cododd Carlo'i ben, griddfannodd, ceisiodd godi ar ei draed, methodd, suddodd yn ôl ar y dillad ag ochenaid fawr. "Ond ydi dy daid yn un rhyfadd, fachgan? Dim ond chdi a fi a'r hen Garlo sydd yma, yntê? A finna'n dechra' traethu fel 'tai 'na lond capal yn gwrando arna' i." Gwyrodd a thynnu'i law yn dyner hyd ben y ci. Yr oedd y pen yn awr yn crynu a rhedai tonnau o gryndod drosto hefyd fel pe byddent o dan y croen: nid oedd y diwedd ymhell. "Dim ond fi a Charlo a'r gath sy yma, Owen,' fydda' geiria' dy nain wrtha' i amball noson pan fyddwn i'n mynd yn