Tudalen:Y Cychwyn.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

huawdl... Diar, dyna ffond oedd Catrin druan o'r hen Garlo ! 'Roedd o'n dallt pob gair oedd hi'n ddeud ac yn troi'i ben yn ddoeth wrth wrando arni hi. A phan aeth hi'n sâl yr oedd ynta'n sâl hefyd, ac fel ysbryd hyd y lle 'ma ar ôl iddi'n gadal ni. 'Fu ci erioed mor gywir, mor driw, ac yn lle pentyrru geiriau, pe bawn i'n deud wrthat ti am fod mor ddiffuant â'r hen Garlo, Owen, 'fydda'r cyngor ddim yn un sâl. Na fydda', wir, fachgan." Ysgydwai'r hen gi yn waeth a gwaethygai'r cynnwrf a ymdonnai dan y croen. Yr oedd dagrau yn llygaid ac yn llais Owen Gruffydd. "Fydda' i ddim yn hoffi ama' dim a ddywedodd yr Apostol, ond yn fy marn i, mi fu'n anffodus mewn un gymhariaeth. 'Gochelwch gŵn,' medda' fo wrth y Philipiaid, yntê? Nid 'u gochal nhw fasa' 'nghyngor i ond gwneud ffrindia' efo nhw, dŵad i'w deall nhw, 'u caru nhw. 'R hen Garlo, Pero o'i flaen o, Sam o'i flaen ynta', Siôn cyn hynny, Cymro ges i'n anrheg briodas-boneddigion i'r carn bob un ohonyn' nhw... Carlo! Carlo bach! 'Rhen Garlo !" Ond ni chlywai'r ci. Ysgydwyd ef gan ffit greulon, fel petai ysbryd drwg yn ei feddiannu ac yn ceisio'i ddarnio, gnawd ac esgyrn. Yna ymdawelodd.

"Rhen Garl! 'Rhen Garl !" Daeth dagrau i lygaid Owen hefyd wrth glywed llais toredig ei daid. "Efalla' y medrwn ni roi llwyaid o'r ffisig 'na iddo fo."

"Mae'n rhy hwyr, Taid."

"Y?" Syllodd yn ffwndrus ar y llonyddwch mud oddi tano. "Ydi, fachgan . . . ydi . . . Ydi, mae'r hen gyfaill wedi mynd. Mae'r hen Garl wedi'n gadael ni."

"Os ewch chi i'r drws nesa' at Lias Tomos am dipyn,

Taid . . . "

"At Lias Tomos?"

"Mi fydda' i wedi'i gladdu o erbyn y dowch chi'n ôl. O dan y goeden 'fala' ym mhen yr ardd, yntê?"

"Ia, Owen, ia. Diolch iti, 'machgan i." Rhoes ei law