"O, yma yr ydach chi, y cnafon?" meddai hi pan ddaeth i'r gegin.
"Be' ddigwyddodd ar ôl inni fynd allan?" gofynnodd ei brawd.
"Dim llawar o ddim. Mi gododd Lias Tomos a deud mor ffond oeddat ti o 'Mam a bod Owen a chditha' yn dipyn o ffrindia'. Mae o am siarad efo chi, medda' fo. 'Synnwn i ddim na eilw o yma heno. Wil, yr ydw' i'n mynd i newid fy ffrog ora' pwy bynnag ddaw yma."
"Wel?" meddai Wil wedi iddi fynd i'r llofft.
"Wel be'?"
""Wyt ti'n gweld sens yn y peth?"
""Fedra' i ddim ond deud wrthat ti fel y deudodd 'Nhaid un noson wrth Harri Hughes, Tai Gwyn. 'Mae 'na lawar o betha' nad ydw' i ddim yn 'u dallt nhw, Harri,' medda' fo. "Wn i ddim pam yr oedd Iesu Grist, a 'fynta'n ddim ond dyn ifanc tair ar ddeg ar hugain, yn gorfod diodda' holl arteithia'r groes.""
Syllodd y ddau yn dawel i'r tân am dipyn, ac yna cododd Owen ei ben wrth wrando ar sŵn Myfanwy'n symud yn y llofft.
"Dew, hogan ddewr ydi Myfanwy, yntê?"
"A finna'n llwfrgi, 'wyt ti'n feddwl?"
"O, 'doeddwn i ddim yn awgrymu . . . "
Daeth cnoc ar ddrws y ffrynt.
"Lias Tomos, mae'n debyg," meddai Wil, gan godi. Ond Huw Rôb a oedd yno, a chôt Owen ar ei fraich a'i het yn ei law.
"Hylô, 'r hen hogia'. Mi fûm i bron â dŵad allan ar eich hola' chi. 'Ron i'n sâl isio smôc. Sigaret, Wil?" "Diolch, Huw."
Ysmygodd y ddau heb air pellach am funud cyfan, ac yna dywedodd Huw yn bur ddidaro, "Mi ges i air efo Eb ar ôl capal."