Tudalen:Y Cychwyn.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn hud eu teitlau. "Illiad Homer, un o feirdd mwyaf y byd, os nad y mwyaf." Tynnodd y llyfr o'i le ac agorodd ef tua'i ddiwedd. "Gwrandewch! Gwrandewch ar hwn ! Yr hen frenin Priam ym mhabell Achilles yn nyfnder y nos yn erfyn am gorff ei fab, Hector. Gwrandewch, Owen Ellis, gwrandewch!"

Ni ddeallai Owen un gair, ond gwrandawodd yn syn, yn syfrdan bron. Ia, llais main 'R hen Eb a glywai, ond . . . ond rhywfodd, fel y llafar—ganai ef y llinellau, yr oedd rhithm a theimlad y farddoniaeth yn trawsnewid ei lais. Petai'r gweinidog yn mynd i hwyl fel hyn yn y pulpud, meddyliodd, yn lle gwichian tros y capel—"fel mochyn yn cael 'i begio, myn diân i," chwedl Wil Cochyn—buasai'n bregethwr gwerth gwrando arno. Pan geisiai Huw Jones godi dadl ag Elias Thomas yn y wal drwy ddilorni gweinidog Siloam fel pregethwr, atgofiai'r hen flaenor ef mai "Mr. Morris oedd y 'sglaig mwya' yn y sir," gan awgrymu nad oedd modd i neb meidrol fod yn fawr ym mhob peth. Ni wyddai Owen a oedd rhyw sail i'r haeriad ai peidio, ond ar ôl gweld a chlywed y dyn bach heno ymhlith ei lyfrau, byddai yntau'n barod i ddadlau trosto fel ysgolhaig. Byd y llyfrau hyn, yr oedd yn amlwg, oedd ei wynfyd. Pam, yn enw popeth, pam na phregethai ef yn fanwl a dysgedig yn lle ei dwyllo'i hun a chredu ei fod yn rhyferthwy o bregethwr, yn Ebenezer Morris yr Ail, yn Ddoctór Owen Thomas arall?

"Homer. Homer." Ysgydwodd y gweinidog ei ben yn ddwys mewn teyrnged i'r bardd. "A dyma'i gerdd fawr arall yr Odyssey. Wrth ei hochr hi... ym... telynegion Pindar. Wedyn... 'Glywsoch chi am Aeschylus?"

"Naddo, 'dydw' i ddim yn meddwl. Bardd oedd ynta'?" "Neu Sophocles?"

"Naddo."

"Neu Euripides?"

"Naddo, wir, Mr. Morris."