wnaethpwyd yn theatr—neu'n . . . ym . . . sioe mewn theatr—i'r byd,' medd Paul wrth y Corinthiaid . . . ym . . . bodlon, parchus, smyg. A sylwch ar yr adnod nesaf. 'Yr ydym ni yn ffyliaid. er mwyn Crist.' Yr oedd wedi sefyll wrth y theatr yn Nharsus pan oedd yn fachgen ac wedi gwrando, yn Hebrewr o'r Hebreaid, ar y chwerthin . . . ym. ym . . . gwag, croch, masweddol, yn dod ohoni. Ac yn ninasoedd y Groegiaid, yn Athen, yn Effesus, yng Nghorinth . . . Ond y mae'n rhaid imi . . . ym . . . wneud pregeth ar y pwnc. Rhaid wir, rhaid imi . . . ym . . . wneud pregeth ar y testun. Ac am Roeg a Lladin yr oeddan ni'n ym . . . sôn, onid e?" Cymerodd lyfr bychan oddi ar y silff.
"Mr. Morris?"
"Ia?"
"Mae'n . . . mae'n wir ddrwg gin' i imi siarad fel y daru mi."
"Popeth yn dda, 'machgen i, popeth yn dda . . . Ia . . . ym . . . popeth yn . . . Hwdiwch, ewch â'r Gramadeg Groeg yma efo chi. Syml, elfennol, ond yn un bach . . . ym . . . neilltuol o dda."
"Diolch yn fawr iawn."
"A hwn, un Lladin. Ewch â'r ddau. 'Fyddwch chi'n . . . ym . . . gweithio ddydd Llun, 'ydych chi'n meddwl?"
"Na fyddwn, mae arna' i ofn. 'Does 'na ddim argoel clirio ar yr eira. Mae'n rhewi heno eto, ond ydi?"
"Dowch yma bore Llun. Mi ddechreuwn ni ar y Roeg."
"Wel, os ydach chi'n meddwl . . ."
"Am ddeg."
"O'r gora', Mr. Morris."
"Nage, am . . . ym . . . hanner awr wedi naw." "Wel . . ."
"Nage, am . . . ym . . . naw. Ia, am naw. Temtasiwn gweinidog yw gorwedd yn hwyr ar fore Llun. 'Gwyliwch a gweddiwch rhag eich myned mewn temtasiwn,' . . . Ia . . . ia,