Tudalen:Y Cychwyn.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y pechod sydd ... ym... barod i'n hamgylchu. Am naw, am naw."

'R hen Eb i'r dim, meddyliodd Owen eilwaith. Ond heb wawd nac amarch y tro hwn.

Bu'r chwarel dan eira am chwech wythnos i gyd, a thrwy'r tair wythnos olaf, ac Owen Gruffydd yn ei wely o'r ffordd, llafuriodd Owen yn ddygn ar y Roeg a'r Lladin. Synnodd y gweinidog at ei ddiwydrwydd, a buan y daeth i edrych ar gynnydd ei ddisgybl fel buddugoliaeth bersonol. Ai Owen i "Fryn Myfyr" am awr bob bore, ac wedi dysgu cau'i lygaid ar rai o ffyrdd rhyfedd 'R hen Eb, daeth i'w hoffi'n fawr. Tu ôl i'r pwysigrwydd ffwdanus yr oedd diniweidrwydd plentyn, a phan ymgollai mewn darn o Roeg neu o Ladin, anghofiai'n llwyr mai ef oedd Ebenezer Morris yr Ail ac âi mor gyffrous â hogyn newydd ddal pysgodyn â'i ddwylo neu ddarganfod nyth dryw. "Mae pobol yn rhai rhyfadd, ond ydyn'?" oedd un o ddywediadau mawr Huw Jones, a mwyaf yn y byd a welai Owen o'r gweinidog, mwyaf yn y byd y cytunai â'r darganfyddiad sylfaenol hwn.

Yr oedd un gŵr yn anfodlon iawn ar ymroddiad Owen.

"Be' mae o'n wneud 'rŵan?" gofynnai Owen Gruffydd droeon bob dydd.

"Groeg yr ydw' i'n meddwl," fyddai ateb ei ferch gan amlaf.

"Hy!"

Yng ngharchar ei wely, a'r dydd yn hir iddo, aeth yr hen wr i gasáu'r Roeg a'r Lladin. Pregethwr ysgubol fel efe, nid rhyw hen wlanen o ysgolhaig, oedd ei ŵyr i fod, ac wrth droi a throi'r peth yn ei feddwl, gwelai Owen yn llithro o'i afael i ddwylo Ebenezer Morris a'i debyg. Fe wnaethai ef, Owen Gruffydd, bregethwr heb boeni'i ben am na Groeg na Lladin, a medrai roi gwers neu ddwy i weinidog Siloam, beth bynnag.