Tudalen:Y Cychwyn.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr argian fawr, medrai: 'doedd y dyn, pob parch iddo, ddim wedi dysgu sut i agor ei geg, heb sôn am ddim arall. Yr oedd yn rhaid i'r drwg dorri allan mewn geiriau, ac un canol dydd pan aeth Owen i'r llofft i edrych am ei daid, "Fuost ti ddim ar fy nghyfyl i drwy'r bora, naddo?" oedd cyfarchiad y claf. "Na neithiwr chwaith."

""Ron i'n ofni mai cysgu y basach chi gyda'r nos neithiwr, Taid, a bora 'ma . . ."

"Mi fuost yn poetsio efo'r Groeg 'na eto, mae'n debyg." "Do, mi fùm i yn nhŷ Mr. Morris am dros awr, ac wedyn "Mi fasa'n well o lawar dy fod di'n treulio d'amsar yn llunio pregetha' ac yn dysgu ymarfar dy lais. Os oes 'na ryw ddirgelwch ynglŷn ag adnod, 'does isio iti ond troi i Esboniad Kitto neu James Hughes neu . . ."

"Ond mae'n rhaid imi ddysgu Groeg a Lladin cyn y medra' i basio i fynd i'r Coleg, Taid."

"Pwy sy'n deud?"

"Calendar y Coleg, debyg iawn."

""Wyt ti'n siwr?"

"Ydw'. Mae gan Mr. Morris un."

"O." Yna'n amheus: "Wnest ti 'i ddarllan o trosot dy hun?"

"Do. Pam?"

"'Oedd o'n deud bod Lladin a Groeg yn orfodol?"

"Oedd."

"Hm... I'r mwyafrif efalla'."

"Naci, i bawb."

"'Tasa'r Prifathro Edwards yn gwybod pwy wyt ti... Mi füm i'n teithio yn yr un brêc â fo droeon, unwaith bob cam o Walchmai i'r Borth, ac mi ddaethon yn gyfeillion mawr. Wedi bod yn sefydlu rhywun tua Chaergybi yr oedd o y tro hwnnw, ac yn siarsio'r gweinidog, ymhlith petha' eraill, i gofio pregethu'n glir a hyglyw i bawb, nid myngial yn 'i farf un munud a gwichian