Tudalen:Y Cychwyn.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tros y lle y munud wedyn, fel 'tai o'n droednoeth mewn drain."

Darlun angharedig o Ebenezer Morris, meddyliodd Owen.

"Ydi'r Post wedi dechra' rhedag?"

"Hiddiw meddan nhw, am y tro cynta' ers mis. Mae'r ffordd yn glir o'r diwadd."

"Sgwenna at y Prifathro 'ta'. Eglura pwy wyt ti—ŵyr i Owen Meurig, dywad wrtho fo—a gofyn gei di wneud Areithyddiaeth ne' rywbeth yn lle'r Groeg 'na, a... ac Esboniadaeth ne' Athrawiaeth yr Iawn yn lle cyboli efo Lladin."

"Dydyn nhw ddim yn debyg o newid gwaith y Coleg er fy mwyn i, Taid."

"Sgwenna di ato fo, 'rŵan. 'Owen Gruffydd,' medda' fo wrtha' i—pan oeddan ni yng nghyffinia' Llangefni, os ydw' i'n cofio'n iawn—'mae'r Cyfundab yn falch o amball ddyn digoleg fel chi. Yr ydach chi mor eofn wrth gyhoeddi negas yr Efengyl, y negas bwysicaf yn y byd, mor llawn o argyhoeddiad ac angerdd a huodledd. Fel Prifathro Coleg, mi fydda' i'n ofni weithia' fod rhai o'r myfyrwyr yn trio pregethu'n rhy ysgolheigaidd, wyddoch chi.' Sgwenna di ato fo, a dywad dy fod di wedi cael gwersi ar draddodi gan dy daid."

"Ond y mae'r Calendar yn deud yn bendant..."

"Sgwenna pnawn 'ma." Yna—ond ni wyddai Owen ai actio ai peidio ydoedd—rhoes ochenaid fawr o flinder, a chaeodd ei lygaid.

"O'r... o'r gora', Taid."

Ac ysgrifennodd Owen y prynhawn hwnnw—i ofyn am gopi o Galendr y Coleg. Derbyniodd y llyfryn gyda'r troad ac aeth i fyny i'r llofft ar unwaith i ddangos i'w daid y rhestr o destunau gorfodol. Prin yr edrychodd ef arni, dim ond gofyn, "Lle mae'r llythyr?"

"O, dyma fo. Llythyr neis iawn, Taid."

Cofiai'r Prifathro'n dda am y bore braf hwnnw o deithio heibio i ddolydd ffrwythlon Môn yng nghwmni diddan ei hen gyfaill Owen Meurig. Yr oedd yn wir ddrwg ganddo na