Tudalen:Y Cychwyn.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chaniatâi rheolau'r Coleg i un myfyriwr osgoi Groeg a Lladin: petai eithriad yn bosibl, fe wneid un yn achos Owen Ellis. Ond os oedd yn y llanc y ddegfed ran o ynni a gallu ei daid, yna nid oedd angen poeni am ei ddyfodol, dim ond iddo gael cymorth rhywun i'w roi ar ben ei ffordd. Beth am ofyn help Mr. Ebenezer Morris, gweinidog Llan Feurig? Yr oedd ef yn ysgolhaig da ac yn frawd parod ei gymwynas.

Darllenodd yr hen ŵr y llythyr drosodd a throsodd, wrth ei fodd.

"Tasa' modd gwneud eithriad o gwbwl, chdi fasa' hwnnw," meddai. "Ond dyna fo, 'dydi hynny ddim yn bosibl. Mae'n rhaid i'r Prifathro ofalu am reolau'r Coleg, wyt ti'n gweld. Rheol ydi rheol, yntê?" Swniai'n bendant a therfynol, fel petai Owen newydd ddadlau i'r gwrthwyneb ac yntau'n mynnu'r gair olaf ar y pwnc.

"Ia, Taid."

"Pryd wyt ti'n mynd at Ebenezer Morris eto?" "Bora 'fory."

"O. Cofia fi ato fo, a dywad fy mod i'n ddiolchgar iddo fo am dy helpu di fel hyn."

"Gwnaf, Taid."

"Hm, mae'n rhaid fod cof y Prifathro'n dechra' mynd. Dyn cymharol ifanc hefyd. 'Bore braf,' medda fo. A hitha'n tresio bwrw y rhan fwya' o'r daith."

"Braf' mewn ystyr arall mae o'n feddwl, Taid-braf yn eich cwmni chi. 'Yng nghwmni diddan fy hen gyfaill Owen Meurig' medda fo wedyn, ynte?"

"Ia, fachgan, ia. Gyda llaw, mae 'na un wers yr ydw' isio iti dynnu o'r llythyr yma."

"A be' ydi honno, Taid?"

"Yr ysgrifen. Yr ydw' i wedi sylwi bod d'ysgrifen di yn dechra' magu rhyw gwafra' cynffon-mochyn mewn ambell air. Mae ysgrifen yn ddarlun o gymeriad, wyddost ti. Edrych ar hon: mae cadernid ac urddas y Prifathro ym mhob gair."