Rhag iddo daro ar Jeremiah eto, aeth Owen â'i gariad i'r tŷ bwyta mwyaf ffasiynol yn y dref. Hwn oedd y tro cyntaf i'r ddau fod yng Nghaer Heli gyda'i gilydd, a theimlent yn yswil wrth ddringo'r grisiau i'r ystafell-de.
"Mi fydd hwn yn lle drud ofnadwy, Owen," meddai Mary'n nerfus.
"O, 'wn i ddim. 'Fydd y creadur 'na o Aber Hen ddim yma, beth bynnag."
Ond yno yr oedd, wrth fwrdd bychan yn ymyl y drws, a phlatiad enfawr o bysgodyn a chips o'i flaen. Brysiodd Owen heibio iddo a dewis bwrdd wrth y ffenestr, gan eistedd â'i gefn at ei gyd-ymgeisydd am y Weinidogaeth. Daeth gweinyddes atynt ar unwaith.
"Be' gymwch chi, Mary?"
"Rhwbath. Dewiswch chi."
"Na, chi sy i ddewis."
"Yr un fath â chi."
"Bara brith?"
"Ia, bara brith, Owen." Yr oedd y syniad yn un ysbrydoledig.
"Bara brith, os gwelwch chi'n dda, a ... a bara-'menyn a .. jam, Mary?" "Ia, jam, Owen."
"Jam, a chacan ne' ddwy... Diolch yn fawr."
"A the, mae'n debyg ?" gofynnodd y forwyn. "O, ia, te. Bron imi anghofio'r te." A chafodd y ddau y peth yn ddigrif i'w ryfeddu.
Ond wedi i Fary, yn nerfus iawn, dywallt y te, ciliodd yr yswildod a cheisiai'r ddau ymddwyn fel petaent yn hen gynefin â bwyta mewn lle o'r fath.
"'Dydach chi ddim wedi sôn am yr arholiad, Owen. 'Oedd y papura'n rhai anodd iawn?""
"Nac oeddan', wir. Un y pnawn 'ma oedd yr anodda', ond mi wnes i'n o lew, yr ydw' i'n meddwl. 'Roeddwn i'n disgwyl