Tudalen:Y Cychwyn.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tai Gwyn neu ddynion Ponc Rowlar. Ia, y Toris 'na. A Chamberlain a'i Ryddfrydwyr Undebol hefyd."

"Be' maen' nhw wedi'i wneud, Taid?"

"Gwneud! Gwneud! Chdi a'th Fathematics a'th hen Saesnag! Wedi taflu'r Llywodraeth allan, dyna be'. Llywodraeth dda hefyd, er mai siawns sâl gafodd hi, a'r hen Dŷ'r Arglwyddi 'na'n gwrthwynebu pob mesur. 'Ron i'n licio'r Arglwydd Rosebery fel Prif Weinidog, mae'n rhaid imi ddeud, er 'i fod o mor wahanol i'r hen Gladstone ac yn rhedag ceffyla' yn y Darbi a phetha' felly. Cael 'i tha flu allan 'rŵan, 'rŵan o bob adag! A mesur Dadgysylltiad wedi cael ail ddarlleniad ! A Dirprwyaeth y Tir wrthi'n paratoi'i adroddiad! A Dewisiad Lleol a diwygiad Dirwestol yn yr arfaeth! A hogia' fel Tom Ellis a Lloyd George a Herbert Roberts yn barod i herio galluoedd yr hen Arglwyddi 'na a gyrru'u Tŷ nhw'n bendramwnwgl os bydda' raid! 'Rwan! 'Rŵan o bob adag!"

"Be' sy wedi digwydd, Taid?"

Aethai Owen Gruffydd yn ŵr cignoeth ers tipyn bellach, yn arbennig er pan ddechreuasai Owen astudio Mathemateg a Saesneg yn ogystal â Groeg a Lladin. Ni wyddai ef ddim am y testunau hynny, a theimlai'n ddig wrth weld ei wyr yn llithro'n fwyfwy o'i afael ef. Ffrwydrai ar yr esgus lleiaf, a ffrwydrodd yn awr.

"'Waeth gin' i pa mor glyfar wyt ti mewn Mathematics a Saesnag a phetha' felly. Ddim hyn'na." A chleciodd ei fawd. "Os wyt ti'n meddwl bod rheini'n mynd i dyfu'n rhyw fath o gicaion Jona uwch dy ben di . . . "

"O, chwara' teg, Taid, 'chlywis i ddim sôn am y Lecsiwn tan bora ddoe yn y chwaral . . ."

"Y?"

"Chlywis i ddim . . . y . . . Fel y gwyddoch chi . . . "

"Bora ddoe ddeudist ti?

Bora ddoe? A soniaist ti ddim. gair wrtha' i neithiwr. Oni bai i Wil Llefrith ddigwydd