Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mae 'n wir y gwelir argoelyn difai
Wrth dyfiad y brigyn,
A hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo 'i wreiddyn."

Cemist yw fy nghyfaill, a gofynnais iddo onid oedd englyn Tudur cystal darn o ddadansoddiad a chyfansoddiad ag a wnaed erioed. Atebodd yntau ei fod ac y buasai prydyddiaeth yn ddiddanwch iddo yntau pe buasai bob amser cystal ag englyn Tudur. Felly, dylai fod yr ansawdd hon ar brydyddiaeth dda bob amser, hyd yn oed pan ymosodo 'r bardd ar dasg hwy na gwneuthur epigram. Nid ar y beirdd y bydd y bai bob pryd fod eu darllenwyr yn darllen eu gweithiau ar ormod o garlam i weled eu doethineb. Cof gennyf hon weithwyr amaethyddol a chrefftwyr o Gymry gynt na byddent byth ar ôl am ddihareb neu bennill i gloi pob ystori neu hanes. I ba le'r aeth y gamp honno? Byddai llenyddiaeth yn ddiddanwch i'n teidiau, ac yn rhoi min ar eu meddyliau. Hynny a bair fod darllen gweithiau Thomas Edwards o'r Nant yn addysg i rai a syrffedwyd ar sothach gwasg ac ysgol. Pa sawl llyfr deg a chwech sy cystal â phennill Thomas Edwards ar natur dyn a'i droedigaeth?—

"Y garreg callestr, er y collo
Mewn dŵr neu ddaear, a'i darn dduo,
Fe ellir yn glir, drwy foddion glân,
Ennyn y tân o honno."

Neu ba faint o bregethau am y nefoedd a gynnwys gymaint o wir a'r ddwy linell hyn:—

"Pe câi dyn annuwiol fynd i'r ne,
Fe'i gwelai 'n rhyw le aflawen!"

Neu eto bwy a dwyllid gan ragrith cegymod y byd o'i fod yn gynefin a ffilosoffi fel hyn:—

"Mae gweniaith diawl yn gwneuthud eilun,
Clwt newydd a'i wnio i fritho 'r hen frethyn,
Un diawl Pharisead yn gweled gwall,
A diawl arall yn deiliwryn!"

Ceir y gelfyddyd gwta mewn prydyddiaeth gaeth a rhydd, gynnar a diweddar. Ychydig iawn a wyddis o hanes y penillion a elwir yn benillion telyn a glywir weithiau hyd heddiw ar dafod leferydd. Ni wyddis pwy a'u gwnaeth, ac ni ellir bod yn sicr iawn pa bryd y gwnaed ychwaith. Efallai — yn wir, gellir profi — i rai ohonynt fod unwaith yn rhan o gân, ond anghofiwyd y penillion i gyd ond rhyw un. Bu hwnnw fyw ar gof gwlad, nes i rywun o'r diwedd ei sgrifennu i lawr. Os