Sol' i'r tân, ag y bydde'n dda ganddo gael canu yr un pennill ganwaith drosodd."
"Wel,' ebe Rhodric, " mi wela, Gwen Rolant, nad ydach chithe ddim wedi'ch plesio'n hollol; ac er y mod i'n 'styried Peter yn ddyn hollol annheilwng i fod yn flaenor, fedra i ddim cydweled â chi ynghylch y Tonic Sol-Ffa. Mae Peter wedi gneyd lles mawr i'r canu. Mae yr oes wedi newid er pan oeddach chi'n ifanc, a rhaid myn'd i ganlyn yr oes. Ac am y peth a alwch yn ddiwygiad, pe dae chi byw am gan' mlynedd, chae chi byth weld pobl yn neidio ac yn gwaeddi fel er stalwm pan oedd y wlad mewn anwybodaeth. Mae pethe wedi newid yn fawr er hyny, a wiw i chi ddysgwyl am beth felly eto."
"Be wyt ti'n ddeyd, George?" ebe yr hen chwaer yn gynhyrfus, gan sefyll ar ganol y ffordd, a chodi ei ffon fel pe buasai ar fedr ei daro. "Be wyt ti'n ddeyd? na wiw i mi ddim meddwl am gael diwygiad! Wyt ti'n gwirioni, dywed? Gwir a dd'wedaist, ysywaeth, fod yr oes wedi newid. Mae pobl yrwan yn meddwl mwy am wisgoedd a chrandrwydd nag am wledd i'r enaid. A be wyt ti'n son fod yr oes o'r blaen yn anwybodus? yr oes hon sy'n anwybodus. Yn fy amser i, 'doedd eisio na Llyfr Hymns na 'Fforddwr gyno ni yn y capel, ond pawb yn 'u medryd nhw ar 'u tafod leferydd. Ond yrwan wrth adrodd y 'Fforddwr, rhaid i bawb gael llyfr o'i flaen, ne mi fydd yn stop buan, mi wranta; a phe bae pregethwr ddim ond yn rhoi allan yr hen bennill, "Dyma Geidwad i'r colledig,