Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Uwd yn wael, ac anfynych y gwnâi ei ymddangosiad. Addysgwyd ni hefyd gan y Saeson am wir amcan gwisgo, sef mai er ymddangosiad, ac nid er clydwch, yr ydoedd. Troai eu merched allan yn fain eu gwasg, ac yn fingauad, penuchel, plyfog, blodeuog, a serch hudol. A meibion Duw a briodasant ferched dynion. Nid ar unwaith, wrth gwrs, y cymerodd y pethau hyn le; ond felly y bu; ac nid ydyw yr hyn a nodais ond tameidyn o'r cyfnewidiadau a gymerasant le er pan aethost di oddiyma.

Ond ti a ddywedi, Pa beth oedd a wnelo hyn â'r capel Cymraeg? Hyn: Gwelsom yn fuan ogwydd yn ein pobl ieuainc i efelychu y Saeson, yn gyntaf yn eu rhagoriaethau, sef i ddal eu pennau i fyny, i gerdded yn gyflymach, ac i wisgo yn dwtiach; yna yn eu ffaeleddau, sef i fod yn fwy cymhenllyd, cellweirus, a di-hidio am bawb; yna yn eu ffolineb, sef i gredu fod y Sais wedi ei wneyd o well clai na'r Cymro, ac fod cymaint o wahaniaeth rhyngddynt ag sydd rhwng potiau Bwcle a porcelain Stoke-upon-Trent. Yr wyf yn meddwl mai ein rhïanod teg a argyhoeddwyd gyntaf o hyn: ac mor fawr oedd y gyfaredd, fel yr hudwyd rhai o'u mamau i'w rhagrith hwy. Teg ydyw dyweyd fod yma rai cannoedd na phlygasant eu gliniau i Baal Saeson, ac a lynasant yn glos wrth eu prophwyd Taliesin a'i arwyddair, "Eu hiaith a gadwant." Ond nid allem beidio sylwi, ymlaenaf oll, fod ein plant yn myned yn fwy carnbwl wrth adrodd eu hadnodau yn y seiat, ac fod acen Seisonig ar eu lleferydd.