Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pe buasai wedi ei syfrdanu; ac ofnwn—pe buaswn yn ofni hefyd—ei chlywed yn tori allan i waeddi. Fel y dygwyddai fod, cydgerddwn â hi o'r odfa . Gofynais iddi—yn Saesoneg wrth gwrs pa fodd yr oedd yn hoffi y bregeth? Torodd i wylo yn hidl; a thybiais fud y bregeth wedi cael yr effaith ddymunol arni. Ond wedi tawelu ychydig, ebe hi, "Mae arnaf gywilydd cyfaddef; ond y gwir ydyw, nid oeddwn yn deall ond ychydig iawn o'r bregeth. Gwyddwn fod rhyw ddylanwad rhyfedd yn cydfyned â geiriau y pregethwr; gwelwn hyny ar wynebau y gynnulleidfa, a theimlwn rywbeth yn fy ngherdded dros fy holl gorff, ac yn cyffwrdd â fy nghalon; ond ni wyddwn beth ydoedd. Ar y pryd buaswn yn rhoddi pobpeth ar fy helw am fod yn alluog i ddeall beth oedd yn myned ymlaen; oblegid credwn fod mwynhâd y rhai oeddynt yn deall Cymraeg yn werthfawr iawn. Ond nis gallwn; ac nid wrth fy nrws i mae'r holl fai yn gorwedd. Gwyddoch mai Saeson gwael ydyw fy rhieni, ac na fedrant siarad hanner dwsin o frawddegau heb wneyd camgymeriadau dybryd. 'Everythink' a ddywed fy nhad bob amser am 'everything' , 'silling' am 'shilling,' ac 'ôl' am 'all.' Ac er ei fod wedi rhoddi addysg dda i mi, ac na fuasai berygl i mi beidio dysgu Saesoneg, ac er mai i'r capel Cymraeg yr oeddym fel teulu yn myned bob Sabboth, Saesoneg, y fath ag ydoedd, a glywais i erioed gartref. Yr wyf yn teimlo fy mod wedi treulio fy Sabbothau am ugain mlyneda yn ofer; ac yr wyf yn ofni mai i'r un peth y gellir priodoli