Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dirywiad fy mrawd hynaf a'i ddifaterwch hollol ynghylch pethau crefyddol. Erbyn hyn, yr wyf yn meddwl mai y peth goreu i mi a fyddai myned i Eglwys Loegr, neu at y Wesleyaid Seisonig. Nis gallaf oddef bod fel hyn yn hwy." Yr oeddwn wedi fy synnu. Credwn bob amser fod Miss Jones—oblegid dyna oedd ei henwyn deall Cymraeg, er nad oedd yn ei siarad. Nid allwn ddygymod â meddwl iddi hi ymadael a'n Cymundeb. Gwyddwn ei bod yn alluog i ddarllen Cymraeg yn rhigl, a gofynnais iddi a oedd hi yn awyddus i ddeall yr hen iaith anwyl. Atebodd nad oedd dim a hoffasai yn fwy. " Yna," ebe fi, "mi a'ch cynorthwyaf." Ac felly y gwnaethum. Cyn i ni ymadael â'n gilydd y bore hwnnw, rhoddais iddi ychydig gyfarwyddiadau. Annogais hi i ddarllen yn ddi—ffael bob dydd adnod neu ddwy o'r Bibl Cymraeg, neu ynte chwe' llinello unrhyw lyfr Cymraeg a ddewisai, a mynnu gwybod, gyda chynnorthwy Geir—lyfr Cymraeg a Saesoneg, ystyr pob gair nad oedd yn ei ddeall. Nid oedd i roddi heibio ei gwaith hyd yn nod ar y Sabboth: yr oedd i ysgrifennu o leiaf ddwsin o eiriau nad oedd yn eu deall yn y pregethau a wrandawai, ac i chwilio i'w hystyr cyn myned i orphwyso. Dygwyddwn fod yn Arolygwr yr Ysgol Sul y pryd hwnnw; ac ymhen ychydig wythnosau llwyddais i osod Miss Jones yn athrawes ar dur o blant bach lle yr oedd i siarad Cymraeg, a dim ond Cymraeg. Ymgymerodd â'r cyfan yn galonnog. A gredi di? yr oedd Miss Jones yn