arnaf fel un a f'ai yn ynfydu; ond, Duw a wyr, yr oeddwn yn credu yr hyn a ddywedwn, oblegid sicr oeddwn nad oedd ganddynt ddrychfeddwl am y gwahaniaeth hanfodol rhwng Methodistiaeth a Phabyddiaeth, ond yn unig iddynt glywed, a bod yn eu pennau ryw vague idea fod y Pabyddion yn addoli Mair a'r seintiau. Yr oedd Eglwys Loegr y pryd hwnnw yn hanner gwag, ac felly yr oedd capel y brodyr Wesley aid Seisonig; ac er na wyddai y cyfeillion ieuainc yr wyf yn son am danynt ystyr y geiriau predestination a ritual, ac er nad ydyw yn hanfodol bwysig, yn ôl fy marn i, gyda pha enwad crefyddol y cedwir dyn am y cedwir ef, gwell oedd ganddynt ddilyn y moddion yn y capel Cymraeg fel delwau dienaid na gadael yr Hen Gorff; a'u trydar beunyddiol, fel y dywedais, oedd am "English cause." Yr oedd amryw yn cyd-drydar â hwy, yn enwedig eu rhieni, y rhai a fuasent ar hyd y blynyddoedd yn rhy ddifater i feddwl am les ysbrydol a thragywyddol eu plant, fel ag i'w gwneyd yn gydnabyddus â'r iaith y proffesent addoli Duw ynddi.
Heblaw hyny, yr oedd rhywrai o'r tu allan i ni, o'r ardaloedd pell, yn edrych arnom drwy ysbienddrych, ac yn cymeryd dyddordeb llosgol yn ein llwyddiant ysbrydol, ac yn garedig iawn yn galw sylw y Gymdeithasfa at ein sefyllfa a'r perygl yr oeddym ynddo o golli ein holl aelodau, y rhai, meddynt hwy, oeddynt yn myned drosodd yn lluoedd at enwadau eraill o ddiffyg achos Seisonig Methodistaidd, er na wyddem ni yma am un enghraifft o hyny. Maentumiant y