Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein ffordd yn raddol. Ond llefai eraill am gael sicrhau gwasanaeth great guns yr enwad er mwyn gwneyd good start, ac ardrethu ystafell gyhoeddus tra y byddid yn adeiladu capel costu3; a'u llefau hwynt a orfuant, a chyhoeddwyd ein hanes yn yr holl newyddiaduron Cymreig. Yr wyt yn hysbys ddigon o'r cyfnod hwn yn ein hanes, ac felly nid ymhelaethaf, fel y dywed y pregethwyr.

Yn awr adroddaf wrthyt fy mhrofiad ynglŷn a'r achos Seisonig. Nid ydyw yn helaeth na hirfaith, ac hwyrach y dywedai rhywrai nad ydyw i ddibynnu arno. Pa fodd bynnag y mae " dyweyd profiad " yn nodweddiadol o Fethodist Calfinaidd; ac os nad ydyw yn brofiad uchel nid ydyw hyny ychwaith yn ddyeithr i ni, yr Hen Gorff.

Dyma fy mhrofiad a'm credo. Credaf ei bod yn ddyledswydd arbennig ar bob Cymro yn y dyddiau hyn feddu y wybodaeth helaethaf sydd yn bosibl iddo o'r iaith Saesonaeg, a hyny o herwydd rhesymau rhy liosog i'w henwi. Credaf hefyd nad ydyw yr holl resymau hyn gyda'u gilydd yn ffurfio un rheswm dros iddo beidio bod yn Gymro da, ac na fydd ei ofal am fod yn gyfarwydd yn iaith ei fam yn un rhwystr, eithr yn hytrach yn help iddo, ddysgu Saesonaeg. Y teuluoedd yr wyf fi yn gydnabyddus â hwynt yn Nhresaeson sydd wedi gofalu dysgu Cymraeg i'w plant ydynt y Saeson goreu o'r Cymry, yn ddiddadl. Addefaf yn rhwydd ein bod yn llafurio dan anfantais i gadw ein hiaith yn fyw. Un o geidwaid iaith lafaredig