Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Gymraeg yn barchusrwydd, os nad yn rhinwedd hefyd. Gwyddost nad ydwyf yn Eisteddfodwr, ond nid wyf yn cymeryd clod i mi fy hun am hyny. Mae amcan gwreiddiol yr Eisteddfod, sef amaethu talent a chenedlaetholdeb, i'w edmygu. Yn ol fy marn i, y mae i bob cenedl dan y nef ei harbenigion nodweddiadol; ac nis gall golli y rhai hyny heb ar yr un pryd golledu y byd, a rhoi cam yn nghyfeiriad unrhywiaeth dof, oer, masw, ac annaturiol. Dyledswydd pob cenedl ydyw ymaflyd yn manteision dysg a gwareiddiad; ond os esgeulusa ac os diystyra hi ei nodweddion cenedlaethol, y mae yn dianrhydeddu yr Hwn a'i gwnaeth yn genedl. Duw a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion. Wel, y mae arnaf ofn nad ydyw cenedlgarwch a iaithgarwch yn cael eu meithrin gennym ynglŷn â'n crefydd. Pe dangosasid gan ein Cyfundeb hanner y zel dros y Gymraeg ag a ddangoswyd dros yr achosion Seisonig, a phe treuliasid hanner yr arian a dreuliwyd i'r un perwyl i gynnyrchu chwaeth Gymreig, buasai y ffrwyth, mi gredaf, yn anhraethol fwy gwerthfawr. Pa beth a enillasom yn grefyddol drwy ddygiad i mewn yr elfen Seisonig? Llawer ymhob rhyw fodd y Penny readings a andwyasant ein cyfarfodydd llenyddol, y cyngerdd gwagsaw, y Bazaar ("Nodachfa," pondigrybwyll!) a'r hap chwareu—"yr elw at ddyled y capel." Treth eglwys mewn triag!! Pa beth a gollasom? Maent yn rhy liosog i'w henwi. Ond y pennaf peth a gollasom ydyw chwaeth at bobpeth duwinyddol a Biblaidd.