Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae tuedd yr oes ieuanc at yr hyn sydd yn costio lleiaf o lafur, yn enwedig mewn llenyddiaeth; ac nid oes gennym yn Gymraeg y ddarpariaeth a ddylasai fod gennym ar ei chyfer; ac esgeulusir yr iaith, a chollwn ninnau y cyfleusdra i ennill ambell un i gydio mewn pethau mwy sylweddol a thrwm. Ni raid i mi ddyweyd wrthyt fy mod yn ffieiddio scurrility. Nid oes genyf gynymdeimlad â'r rhai a siaradant yn isel am weinidogion y gair, ac a ddiystyrant fugeiliaeth eglwysig, Ond y mae arnaf ofn gobeithiaf fy mod yn methu—fod tuedd yn yr achosion Seisonig yr wyf fi yn gydnabyddus â hwynt i anwybyddu (yr wyf yn defnyddio y gair hwn er mwyn dangos i ti nad wyf yn esgeuluso fy Nghymraeg!) nodweddion Methodistiaeth. Yr ydym rywfodd gyda'r Saesonaeg yn colli ein nodwedd werinol, ac yn prysur fyned i grefydda by proxy. Mae y gweinidog Seisonig fel cloc wyth niwrnod yn myn'd, myn'd; ac os dygwydd iddo fod eisieu ei windio, ni wyr neb faint ar y gloch ydyw. Efe, wrth gwrs, sydd yn pregethu, ac weithiau yn cyhoeddi, ac yn fynych iawn yn dechre ac yn diweddu yr ysgol. Pen draw hyn fydd clerigiaeth, ac ni wna hyny y tro, mi gredaf, i'r Cymry. A son am yr Ysgol Sul, yma drachefn yr ydym yn colli ein nodwedd Fethodistaidd. Mae gan y Saeson ffordd fwy rhagorol. Os ânt i'r nefoedd—ac y maent yn sicr yn eu meddyliau eu hunain yr ant—bydd i Mr. Charles ofyn am apology ganddynt. Ni fynychir yr ysgol ond gan y plant ac ychydig athrawon. Mae ein haelodau