Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parchusaf wedi dysgu eu gwala o'r Bibl, ac ar bryd nawniau Suliau gorweddant ar eu hesmwyth—feinciau ar ben eu digon. Dyma'r gwir, lladded a laddo. Ac mi glywais frawd o'r capel Cymraeg yn dyweyd fod y cyfeillion hyn wedi dysgu cast i'r Cymry, a'u bod yno hefyd erbyn hyn yn dechre barnu pa beth ydyw sefyllfa fydol dynion yn ol fel y byddont yn dyfod neu yn peidio dyfod i'r Ysgol Sul. Ond y nhw a ŵyr am hyny. Nid wyf am son dim am y seiat Saesonig caiff hono siarad drosti ei hun.

Gyda'r achos Seisonig, pan ddygwyddo i bregethwr gael ei gymeryd yn wael, neu ynte iddo dori ei gyhoeddiad, ni welaist di 'rioed 'shwn fyd fydd yma, yr hela a'r howla a fydd am ryw sort o bregethwr. Ac os dygwydd i'r gair fyned allan na ddaw y pregethwr i'w gyhoeddiad, ni welaist erioed gynnifer o'n haelodau fydd yn indisposed! Yr ydym yn teimlo rywfodd yn y capel Seisonig yma nad ydyw yn bosibl myned ymlaen am un Sabboth heb bregethwr; ac o herwydd hyny byddwn yn cael pob math o lefarwyr, a chymaint o amrywiaeth yn ystod blwyddyn ag oedd yn llenllian Pedr. Yn misoedd yr haf cawn ambell bregethwr ardderchog; ond y rhan fynychaf rhai yn "treio'u llaw" at y Saesonaeg a gawn. Wel, y mae hyn yn peri i mi feddwl fod perygl i'n hachosion Seisonig fod yn amlach na'n pregethwyr Seisonig, ac fod eisieu rhoddi у brake ar y cyntaf, a steam ar yr olaf. Nid oes ammheuaeth yn fy meddwl, fod yn rhaid i ni wrth yr achosion Seisonig; ond nid wyf yn gweled