Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er's meityn yn drystfawr ac ysglyfaethus, a'i holwynion yn troelli yn gyflym, a'i hagerdd a'i mwg yn es gyn i'r awyr, ac amryw wŷr o'i deutu heb gôb na gwasgod—rhai yn taflu yr ysgubau i'w chrombil, eraill yn pentyrru y gwellt, ac eraill yn cylymu cêg y sachau, a phawb yn ymddangos càn brysured a iar a deugyw, ac yn gwaeddi mor uchel wrth siarad fel ag yr oeddwn yn gallu eu deall yn burion o'r ffordd. Gwelwn Ifan Wmphre, y pen blaenor, nid fel y bydd ai yn y capel, sef yn araf—deg a hamddenol, ond wedi deffro o’i goryn i'w sawdl ac yn llawn bywiogrwydd. Ymddangosai yr hen frawd i mi fel pe buasai yn ar gyhoeddedig ped arosasai y gwr chwimwth a ddiwallai yr engine gegrwth ond am un eiliad, y buasai y peiriant yn ddiymdroi yn ymosod yn ffyrnig ac ysglyfaethus ar bob copa walltog o'r rhai oedd o'i ddeutu, os nad ar y tŷ, ac ar y wraig a'r plant hefyd. Pan euthum yn ddigon pell oddiwrth sŵn y peiriant i allu clywed fy myfyrdodau, meddyliwn mai nid peth dibwys, wedi'r cwbl, oedd dyfodiad yr engine ddyrnu i ardal, pe na buasai ond am y bywyd a'r egni a ddygai gyda hi, ac a gyfrannai i'r rhai oeddynt, ar brydiau eraill, yn hollol ddifraw. Ac eto nid allwn beidio dychymygu am wyneb cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas,—yr hwn oedd ŵr doniol a thafodog, a'r sense of humour yn gryf ynddo—y bore y derbyniodd efe y llythyr a gynhwysai y "rheswm digonol" dros iddo oedi ei ymweliad â'n hardal. Diammheu gennyf iddo roddi i mewn ar unwaith, yn ei feddwl, i resymoldeb,