Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cais, ac iddo ganfod fod un engine ddyrnu yn llawn ddigon yn ein hardal ar yr un diwrnod! Tybiwn hefyd mai y gair uchaf yn meddwl Ifan Wmphre y diwrnod hwnw oedd, "Nid ar Feibl yn unig y bydd fyw dyn." Tarawyd fi gyda hyn gan y syniad——pe buasai ymweliad gwahanol gynrychiolwyr galluog y Fam Gymdeithas yn cael edrych arno gyda'r fath ddyddordeb, ac yn dylanwadu mor rymus ar bawb yn ein hardal ag a wnâi dyfodiad yr engine ddyrnu ar deulu yr Hendre Fawr—mai nid deuddeg punt a fuasai swm ein casgliad blynyddol at y gymdeithas ddigyffelyb honno.

Yr oeddwn wedi rhoi fy ngharbed bag dan ofal hogyn, a'i anfon o fy mlaen i'r orsaf—nid am fy mod yn y falch i'w gario fy hun, ond rhag i neb wybod fy mod yn myned oddicartref ac iddynt holi a stilio i ba le yr awn. Canys gwyddwn pan elai un diwraig neu ddiŵr i Landrindod fod tuedd mewn rhai pobl i briodoli iddo neu iddi amcanion amgen na gwellhau yr iechyd; er na fuasai raid i mi ofni y priodolasid amcan felly i mi, gan fy mod, fel y tybiwn, yn un pur annhebyg i wneyd argraff ddofn ar neb, neu o dderbyn argraff arosol gan neb. Eto meddyliwn fod cadw safnau y trigolion yn ngheuad yn werth chwe' cheiniog, yr hwn swm a delais yn onest i'r hogyn, ac am yr hwn swm yr oedd efe yn dra diolchgar, oblegid can gynted ag y derbyniodd efe y chwe' cheiniog, poerodd arno i'r dyben, gallwn feddwl, iddo lynu yn ei law, oherwydd nid oedd ganddo boced gyfan ar ei helw, mi