Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymerwn fy llw. Yn wir telais fwy na hynny lawer gwaith drosodd yn ystod fy oes, i gadw tafodau yn segur, a theimlaf y fynyd hon mai dyna yr investment goreu y gall dyn ei wneyd.

Yr oeddwn wedi prysuro yn gymaint i ddal y trên fel, pan gymerais fy eisteddle yn y gerbydres, y teim lŵn dipyn yn wasgedig a churedig fy nghalon, ac yr oedd ynof duedd gref i orwedd. Nid anhyfryd gennyf oedd teimlo felly, oblegid dyfnhâi fy argyhoeddiad nad oeddwn mor gryf ag oedd ddymunol, ac elai ymhell i dawelu fy nghydwybod nad oeddwn yn myned oddi cartref i wastraffu wythnos neu bythefnos o amser gwerthfawr heb amcan teilwng. Wrth farnu yn deg a diduedd yr wyf yn cael fod dyn—hyny ydyw, yr wyf yn cael fy hunan——oblegid nid oes ynof awydd pinio fy meiau fy hun wrth ddynion yn gyffredinol——yr wyf yn cael fy hun, meddaf, yn chwareu llawer cast gyda fy nghydwybod. Rhaid i mi, a phob dyn gonest, gyd nabod mai hi ydyw y frenhines, gwg neu wên yr hon gan nad pa mor deyrngarol ydym—nis gallwn ei anwybyddu. Pob dyn gonest, meddaf; ac wrth hynny y meddyliaf—pob dyn sydd wedi ymddeffroi o gysgad rwydd anystyriaeth i ymholi o ba le y daeth? i ba le y mae yn myned? beth ydyw neges a dyben ei fodolaeth?beth ydyw ystyr yr hyn a wêl o'i amgylch? dy breuddwyd a'i dameg ydyw? beth ydyw ef ei hun, a'i math o beiriant bwyta? ai cannwyll a lysg i lawr i'w socet rai o'r dyddiau nesaf? ai ynte seren i fyned o'r golwg i oleuo ar ryw hemisphere arall? Nis gall y fath un