Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysmygu ac nad allant oddef yr arogl, ac mae ganddynt berffaith hawl i ddadgan eu teimlad ac i am ddiffyn eu hunain rhag y fath anghyfforddusrwydd: ond pe buasai pob ysmygwr fel fi ni chlywsid neb yn cwyno, oblegid ni fedrais erioed fwynhau mygyn os gwyddwn fod hyny yn blino rhywun. Bydded i bob ysmygwr roddi esiampl dda i'r gwrth ysmygwyr drwy ymwadu â'i fwyniant ei hun er mwyn dedwyddwch eraill. Ond gyda golwg ar argyhoeddi y gwrth ysmygwr fod gwir fwyniant (daearol, wrth gwrs,) i'w gael yn y mwg, mae hyny yn anobeithiol—oherwydd—yn gyntaf, fod ei ragfarn yn rhy gryf; yn ail, am nad ydyw yn dyfod o fewn cylch ei brofiad; yn drydydd ac yn olaf, am ei fod yn amheus a ydyw y pwnc ynddo ei hun yn beth i ymresymu yn ei gylch. Cymwysiad—bydded pob un sicr yn ei feddwl ei hun.

Yr hyn a achlysurodd i mi wneyd y sylwadau uchod oedd hyn: wedi teithio am hanner awr ar draws gwlad boblog, a phan safodd y trên gyntaf i gymeryd ei wynt, daeth i mewn i'r un compartment a mi ŵr corphol, a phibell yn ei ben, gan anadlu yn drwm trwy ei phroenau, fel un yn cerdded yn ei gwsg a'i lygaid yn agored. Yr oedd efe mor drwsiadus ei wisgiad a phe buasai yn mynd i gael tynnu ei lun. Yr oedd ei wallt a'i wiscars cán goched a gwasgod gwas gŵr bonheddig, a'i wyneb—yn enwedig ei drwyn yn tueddbenu at yr un lliw, yr hyn a barai i mi feddwl—yn gyfeiliornus, hwyrach—nad y bibell oedd ei unig foeth. Cán gynted ag y cauodd efe y drws ac yr