Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eisteddodd, dechreuodd siarad. Yr wyf wedi sylwi fwy nag unwaith y gellir teithio yn y trên am ugain milldir gyda chydymaith ansmygyddol, heb dori Cymraeg; ond ni welais erioed hyn yn dygwydd mewn smoking compartment. Athroniaeth y peth, mi debygaf, ydyw hyn: mae y cydymaith ansmygyddol yn unknown quantity—nid oes dim rhyngom ag ef i dori ar y dyeithrwch: pryd mai gweled cetyn yn nghilfin un ar y fainc acw, a'r ymwybyddiaeth fod un gyffelyb yn ein cilfin ninau ar y fainc yma, yn arwydd ac yn gyfaddefiad o frawdoliaeth, a’n bod yn un mewn un peth o leiaf, ac yn arweiniad diseremoni i ymddyddan. Wel, wedi gwneyd sylw ar yr hin ac i minnau gydolygu ag ef, ebe fy nghydymaith,——

"Peth rhyfedd ryfeddol (nid oedd efe yn ofalus am siarad yn ramadegol mwy nag y byddaf finnau yn fynych) yn bod ni wedi 'n gadel yn hunen, a nine mewn smoking compartment."

"Mae y frawdoliaeth fygyddol yn brin bore heddyw," atebais.

"Nid hyny oeddwn yn feddwl," ebe fe, "ond synnu 'roeddwn i fod y compartment heb ei lenwi efo merched, achos mae nhw'n wastad yn stwffio'u hunen lle bydd smocio."

"Tybed?" ebe fi, " yr oeddwn bob amser yn meddwl mai fel amddiffyniad i ferched, a rhai cyffelyb, y gofalodd y Cwmni am le i ni, yr ysmygwyr, ar ein pennau ein hunain."

"Digon gwir, syr; ond y mae'r amcan wedi 'golli'n