Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim yn gweld fy hun yn gymwys i roi cynghor i chi yn eich helynt; ac ychydig eraill a gewch chi yn barod i'ch cynghori os na cha nhw dâl am'u gwaith. Mi ddarllenes stori dda er's talwm—mi cofies hi byth. Un tro yr oedd dau longwr—yr unig ddau o'r criw oedd wedi'u safio pan aeth y llong i lawr yn y storm. Yr oedd y ddau rywfodd wedi llwyddo i gael cwch, ac yr oeddan nhw wedi bod am rai dyddiau ar wyneb y dyfnder heb damed na llymed ac heb obaith am waredigaeth. O'r diwedd fe feddyliodd y ddau fod hi yn y pen arnyn nhw, ac y bydde raid iddyn nhw farw, ac entro i'r byd mawr tragwyddol, a fe aethon i feddwl am'u heneidie, fel y bydd raid i ni gyd ryw ddiwrnod, ddyliwn. Wel i chi, roedd y ddau yn ddigon annuw iol, fel fine. Fedre 'run o'r ddau ddarllen, bydase gynyn nhw lyfr i'w ddarllen, a fedre nhw na chanuna gweddio. A bre un o honyn nhw—Jack, mae hi yn y pen arnom ni, a rhaid i ni neyd rhywbeth. Fedrwn ni na chanu na gweddio, ond ni fedrwn neyd casgliad, 'a mi a'th efo'r het o gwmpas, a mi deimlodd y ddau yn well o lawer ar ol gneyd y casgliad.' Wel, wraig fach, yr ydw inau yn teimlo yn debyg iawn iddyn nhw—dydio ddim yn fy line i i'ch cynghori, ond mi fedraf neyd casgliad i chi." Gan gymeryd ei het a rhoi dau ddarn hanner coron ynddi, estynodd hi ataf fi a chyfrenais inau rywbeth yn ol fy mhoced. Estynodd yr ysmygwr yr het drachefn at y person, ond ysgydwodd y gwr eglwysig ei ben gan ddadgan fod ganddo ef ddigon o le yn 'ei