Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w gweinidogion o'u pocedau eu hunain; ac yntau, y creadur druan! ar ol i'w gloch o fod yn tincian yn ddigalon am chwarter awr, yn gorfod wynebu cynnulleidfa anferth—agos gymaint a hono yr oedd Noah yn pregethu iddi yn yr arch, adeg y diluw. Pan fydd o yn darllen y Deg Gorchymyn, bydae o yn 'u rhanu nhw rhwng ei gynnulleidfa mi fyddai raid i rai o honyn nhw gymeryd mwy nag un hyd yn nod bydae o yn cymeryd "Na ladrata" iddo fo ei hun. Tuag ugain mynyd fydd hyd "y gwasanaeth." "Yr hen bum' munyd," mae nhw yn 'i alw fo—achos dyna ydi hyd 'i bregeth o. Wyr o fwy am pulpit sweat nag a wyr pry' copyn am y frêch wen. Ei waith ar hyd yr wythnos ydi dawnsio i'r Squire, a cheisio creu rhagfarn yn erbyn ysgolfeistr y Board School, yr hwn, am chwarter y cyflog, sydd yn gneyd mwy o waith mewn wythnos nag y mae ef yn ei neyd mewn blwyddyn. Bydae o yn gorfod byw ar gynnyrch ei ymenydd fe lwge cyn pen yr wythnos—os na wnai ei floneg ei gadw yn fyw dipyn yn hwy. Pa fath bobol, syr, ydach chi yn ein galw ni y Cymry? Slaves di enaid a diyni yr ydw i yn 'u galw nhw yn dyodde y pla yma er's oesoedd. Mi fyddaf yn synu na fasen ni er's talwm wedi codi fel un gwr i ymlid y lot ddiog hyn oddiar ein porfëydd! Maent yn casâu ein hiaith, ac wedi gneyd eu goreu i'n cael dan draed y Saeson, ac ar yr un pryd y maent yn bwyta brasder ein gwlad a chynnyrch ein tiroedd—a ninan a'n llaw wrth ein het iddynt am neyd hyny! Ond y mae