Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny, yn ddiammheu, "yn warthrudd oesol ar urddasolrwydd ei bersonoliaeth, ac annheilwng hollol o feddwl arddansoddol, ac o un hyddysg mewn uchanianaeth. Yn hytrach na defnyddo ieithwedd dlodaidd a lliprinaidd y bodau iswybrenol, a elwir y werinos, dewisach a fyddai ganddo gael ei alltudio dros derfyn gylch y bydysawd, a threulio ei oes ar glogwyn y fall mewn pendristedd hunymdeimladol, neu ei wneuthur yn nod i atgasedd y cydfyd." Rhywbeth tebyg i'r frawddeg ddiweddaf y byddant yn siarad yn gyffredin. Ond beth pe clywech chwi hwynt pan fyddant wedi esgyn at yr aruchel? Ar y cyfryw adegau, yr hyn sydd yn digwydd yn lled fynych, ni ddefnyddiant un gair os na fydd yn ddigon o bryd i ddyn. O bob math o siaradwyr, y rhai hyn ydynt y rhai mwyaf anhawdd eu goddef. Mae eu clywed yn baldorddi yn ddigon a chodi cyfog ar ddyn synwyrol.

Ond rhaid i ni roddi terfyn ar ein llith, nid am nad oes genym ychwaneg i'w ddweyd, ys dywedai Robert Thomas, Llidiardau, oblegid gallesid dweud rhywbeth ar y siaradwyr bonglerus, y rhai, fel Mrs. Partington, na fyddant byth yn agor eu safn heb roddi eu troed ynddi, ac ar y siaradwyr gorfanwl, y rhai a siaradant bob amser fel pe byddent yn ymwybodol fod reporter yn gwrandaw arnynt. Gallesid dweyd rhywbeth ar siarad Cymraeg a Saesneg, siarad cwmpasog, a siarad i bwrpas, siarad gwag, a siarad syn wyr, siarad yn y wyneb, a siarad tu ol i'r cefn, siarad maswedd, a siarad er adeiladaeth. Onid ydyw Siarad