Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangos i mi yn fwy bethma fyth. Os gafaelir mewn llyfr Cymraeg, cauir ef y fynyd hono—Cymraeg ydyw, bid siwr! Os bydd dyn yn adrodd synwyr yn Gymraeg, dry stick ydyw yn union, a'r ganmoliaeth uchaf a roddir iddo ydyw, pity na fuasai yn siarad yn Saesneg. Defnyddir ymadroddion fel hyn gan rai y gwyddis mai tatws llaeth oeddynt y geiriau cyntaf a ddysgasant. Anaml y blinir neb yn y dyddiau hyn gan ddim Cymreig. Anfynych y mae neb yn cael y ddanodd. O na, y tic, neu y neuralgia, sydd ar bawb. Ni flinir neb gan ddolur gwddf—sore throat ydyw y poenwr yn awr, oddigerth y bydd dyn mewn sefyllfa led uchel, yna y. mae yn bronchitis. A glywodd rhywun yn ddiweddar am rywun yn cwyno gan waew yn ei gefn? Chlywais i ddim am neb, ond clywais lawer yn cwyno eu bod yn dyoddef gan y lumbago. Mae yn bryd i ni ofyn i ba le yr ydym yn myned. Os awn ymlaen fel hyn yn hir, byddwn fel y Tichborne hwnw—ni bydd ein cymyd ogion yn adnabod ein lleferydd, a byddwn o dan orfod i ddangos ein bodiau i'r diben o brofi mai ni ydym ni! Os nad ydyw peth fel hyn yn bethma, wn i ddim beth sydd yn bethma.