Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canfyddai hefyd, ddosbarth arall ag y mae eu hymddangosiad yn dangos yn amlwg fod eu meddwl yn hollol ddyeithr i'r weddi. Bydd wyneb ambell un yn dangos cymaint o wagder a syrthni nes peri i un ammheu a ydyw yn ymwybodol o gwbl pa beth sydd yn myned ymlaen. Bydd eraill i'w gweled â'u llygaid yn cynniwair drwy y dorf i archwilio dilladau eu cyd addolwyr. Ac yn wir, y maent yn cael digon o wrthddrychau gwerth syllu arnynt yn y ffordd hon, oni bae fod y lle a'r amser yn anghyfaddas. Gallwn edmygu gwisgoedd gwerthfawr a gweddus cystal ag un dyn; ond onid oes lle i ofni fod llawer merch ieuanc, er hwyrach yn ei diniweidrwydd, ac yn ddiarwybod o anweddusrwydd y peth, yn edrych ar yr addoldŷ fel rhyw fath o exhibition, lle y mae ganddi stall i ddangos ei nwyddau, y rhai na chaiff neb eu rhagori hyd y mae yn ei gallu hi. Pa ryfedd os na fedrir dyweyd ar ol dyfod allan o'r addoldy pa beth oedd y testyn, heb son am y bregeth? Pa ryfedd fod llawer yn mynychu ein capelydd heb ddeall y gwasanaeth, ac yn tyfu i fyny heb wneyd un ymdrech at hyny? Pa ryfedd os ydyw y pregethwr yn gorfod gofyn yn feunyddiol, "Pwy a gredodd i'n hymadrodd?" Yr ydym yn addef y gall un ymddangos yn bur ddefosiynol, ac eto fod ei ysbryd ymhell oddiwrth y pethau Dwyfol, ac i un arall ymddangos yn bur aflêr a'i enaid yn nghanol y pethau. Ond eithriadau ydyw y rhai hyn; ac yr ydym yn credu fod hyfforddiant mewn astudrwydd a gweddus rwydd yn yr addoliad cyhoeddus wedi ei esgeuluso yn