Prawfddarllenwyd y dudalen hon
fawr genym. Dylid, ar bob cyfrif, beidio rhoi un achlysur i arwain y meddwl oddiwrth ysbryd y weddi a mater y bregeth. Dylai y neb sydd yn dyfod i'r moddion ar ol i'r gwasanaeth ddechre fyned i'w eisteddle mor ddystaw ag y mae yn bosibl iddo wneyd; ac yr wyf yn barod i feddwl na ddylai yr un foneddiges sydd yn gwisgo gwn sidan fod hanner mynyd ar ol yr amser priodol. Bydd y sŵn fel awel o wynt a achosir gan y dilledyn prydferth hwn yn aflonyddu yr addoliad yn fynych, ac yn peri i ambell un ddymuno am i'r rhai sydd yn ei wisgo fod, er yn anamserol,
"Oll yn ei gynau gwynion,
Ac ar eu newydd wedd."