da o honynt. Gan fod yr ardal lle y trigianna yn un boblogaidd, a llawer o weithfeydd ynddi, darfu iddo mewn amser cymhariaethol fyr, trwy ddiwydrwydd, gyrhaedd sefyllfa ag yr edrychid arno gan ei gymydogion fel "dyn pur dda arno." Dechreuodd gadw shop mewn tŷ lled fychan; ac am rai wythnosau meddyliodd mai ei chadw hi a fyddai raid iddo, ac na ddeuai y shop byth i'w gadw ef. Ond drwy brynu yn y farchnad ore, a gwerthu am brisiau rhesymol, daeth yn fuan yn fasnachwr llwyddianus. Wedi cyrhaedd sefyllfa gysurus, fel pob dyn call cymerodd ato gymhar bywyd. Merch ydoedd hi i amaethwr cefnog yn y gymydogaeth, yr hon, heblaw ei bod wedi cael addysg dda, oedd feinwen landeg a hardd. Os oedd llawer o fân fasnachwyr yn cenfigenu wrth Mr. Jones am ei lwyddiant blaenorol, yr oedd mwy o ddynion ieuainc yr ardal yn cenfigenu wrtho am ei lwyddiant diweddaf hwn; oblegid edrychid ar Miss Richards—canys dyna oedd ei henw morwynol—fel y ferch ieuanc fwyaf priodadwy yn y lle; ac nid oedd gan ei gelynion penaf ddim mwy o ddrwg i'w ddyweyd am dani na'i bod "braidd yn uchel ei ffordd," ac hwyrach fod rhyw gymaint o sail i'r cyhuddiad hwn.
Y cyntaf yn yr ardal i deimlo effeithiau priodas Mr. Jones ydoedd George Rhodric, y teiliwr; canys hyd yn hyn buasai Mr. Jones yn gwsmer rhagorol iddo; ac yr oedd y siopwr yn dyfod i fyny ymhob ystyr â drychfeddwl y dilledydd am gwsmer da, sef yn un oedd yn gwisgo llawer o ddillad, un hawdd ei ffitio, un