brentis allan o'r tŷ; a'r rheswm a roddid am hyny oedd eu bod yn rhy brysur. Yr oedd hyn yn brofedig aeth fawr i'r prentis, gan y rhoddid tê a bara brith i blant yr Ysgol Sul gan gyfeillion Mr. a Mrs. Jones; ond gwnaed i fyny iddo am hyny, i raddau, trwy i'w feistr roddi iddo dair ceiniog am aros i mewn, ac addewid am holiday y dydd Llun canlynol. Er na ddaeth George Rhodric allan o'r tŷ ddydd y briodas, tystiai y prentis ddarfod iddo, pan oedd y priodfab a'i wraig yn pasio ei dŷ, edrych yn ddirgelaidd trwy y ffenestr; ond yr unig eiriau y clywodd y prentis ef yn ddyweyd oeddynt, "Wel, fuasai raid iddo ddim myned i Gaer— i gael y rhai yna."
Yr oedd gan Rhodric ychydig edmygwyr, y rhai a fynychent ei weithdy, i wrandaw ar ei ddoethineb, ac i gael "pibellaid." Nid allai y rhai hyn lai na nogio eu penau, i ddangos eu cymeradwyaeth, pan y byddai y dilledydd yn siarad yn awgrymiadol ac mewn hanner brawddegau. " Sôn yr oeddych, " meddai " am briodas Mr. Jones. Wel, dyma ydi fy meddwl i,—y dylai dyn fod yn ddyn, ac nid cael ei lywodraethu gan ei wraig. Mae arian yn burion yn eu lle; ond nid arian ydi pobpeth. 'Does gen i ddim i'w ddyweyd am Mr. Jones; ac am Mrs. Jones—wel, nid fy lle i ydi dyweyd dim." Nid yn yr awgrymiadau hyn a'r cyffelyb, yn unig, y canfyddid y cyfnewidiad yn syniadau George, mewn perthynas i'w barchedigaeth i Mr. Jones, ond gwnai ei ymddangosiad ar achlysuron cyhoeddus. Yn flaenorol, pan y gelwid ar Mr. Jones