cyfleusderau, ond y mae gen' i ofn nad ydi'r galon ddìm ganddynt. Mi gewch fendith, Mr. Jones; fe dal y pregethwr am ei le i chwi. "Nac anghofiwch lettŷgarwch, canys wrth hyny y llettŷodd rhai angylion yn ddiarwybod." Un hynod o lettŷgar oedd yr hen batriarch. Pan ddaeth y bobl ddyeithr hyny heibio ei dŷ, ni wyddai fo yn y byd mawr pwy oeddan' nhw, ond ei fod yn guessio eu bod yn weision yr Arglwydd ; 'ac efe a fu daer arnynt, ac â roes y croeso gore iddynt; a chyn y bore yr oeddynt wedi troi allan yn angylion, ae fe'i cadwyd yntau rhag i un dafn o'r gawod frwmstan syrthio ar ei goryn. Yr oedd George Rhodric yn sôn wrtha'i am i ni dalu hyn a hyn y Sabbath am le y pregethwr; ond er na fedra'i roi llettŷ i bregethwr fy hunan, yr ydw' i yn hollol yn erbyn y drefn yna. Pe buaswn i yn bregethwr, fuaswn i ddim yn gallu mwynhâu pryd o fwyd yr oeddwn i yn gwybod fod rhywun arall yn talu hyn a hyn am dano. Mi fuaswn yn myn'd i feddwl faint, tybed, oeddan nhw yn dalu, ac â oeddwn i wedi bwyta tua'r marc, neu â oeddwn yn peidio myn'd dros ben y marc; er, byd a'i gŵyr o, y mae y rhei'ny welais i o honynt yn bwyta digon ychydig, ac yn enwedig y bechgyn â'r gwynebau llwydion o'r Bala yna. Ha! mi fuasai yn o arw gan Mair a Martha gymeryd tâl am le yr Athraw, goelia' i, Mr. Jones. Ar yr un pryd, yr wyf yn credu mai diffyg ystyriaeth sydd wedi rhoi cychwyniad i'r drefn mewn ìlawer man. Mae pobl yn eu hanystyriaeth yn cymysgu rhinweddau crefyddol, ac
Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/82
Gwedd