Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda deheurwydd mawr. Yn yr eglurhad a roddwyd gan Watcyn, soniodd gryn lawer am y " balot," "y tugel," "y rhai presennol," "a'r rhai absennol," "dwy ran o dair," "a thair rhan o bedair," âc., yr hyn oll i Gwen Rolant, er clustfeinio ei goreu, oedd yn Roeg perffaith. Pa fodd bynag, wedi i ddau frawd ofyn cwestiwn a chael atebion boddhäol, terfynwyd y cyfarfod.

Ar y ffordd gartref dywedai George Rhodric fod yn hawdd iawn gweled at bwy yr oedd William Thomas yn naddu, a phwy oedd ei ddyn o. Dywedai Gwen Rolant ei bod hi yn ofni fod crefyddwyr yr oes hon yn myned i dir pell iawn. Pan oedd hi yn ieuanc, y ffordd y byddid yn dewis blaenoriaid oedd i ddau bregethwr, neu ynte bregethwr a blaenor ddyfod i'r seiat, ac i bawb fyned atynt, a dyweyd pwy oeddynt am ddewis; ond yrwan fod rhyw Balet yn dwad, pwy bynag oedd hwnw—yr oedd hi yn ofni oddiwrth ei enw ei fod yn perthyn rywbeth i Belial. Ac am y tiwgl yr oeddynt yn son am dano, yr oedd hi yn siwr mai Sais oedd hwnw, ac mai gwaith Peter Watcyn oedd ei gael yno, fel y cai o wybod pan nesa' y gwelai " Ni chymer'sai William Thomas lawer o hono ei hun," ychwanegai yr hen chwaer, " â nol Saeson yma, ac ni ddarfu o gymaint a henwi un o honynt y noson hono, yr hyn oedd yn dangos yn ddigon plaen mai gwaith Peter Watcyn oedd y cwbl."

Afreidiol ydyw dyweyd fod Gwen Rolant, pan hi o. ddaeth noswaith y dewisiad, wedi cael ei siomi o'r