Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parhant yn eu swydd, os bydd eu cymeriad yn weddol ddilychwin, hyd nes y lluddir hwynt gan farwolaeth. Cofier mai son yr ydym am eithriadau; ond ceir hwynt yn eithriadau lled fynych ymhlith ein brodyr y blaenoriaid. Y maent fel dosbarth yn ddynion grasol, galluog, a rhyddfrydig; ond i'n tyb ni, y mae yn hen bryd i ni gael rhyw ddyfais i symud o'r ffordd у dos barth hwnw sydd yn rhwystr i lwyddiant crefydd, ac yn fagl ar bob symudiad daionus ynglŷn â'r eglwys y maent yn swyddogion iddi.

Son yr oeddym am aelod yn syrthio allan o ffafr yr eglwys wrth arddangos awydd am gael ei wneyd yn flaenor. Mae yn ddiammheuol fod rhyw reswm i'w roddi am hyn pe gellid dyfod o hyd iddo, ac mai fel y mae pethau y maent oreu. Hwyrach mai rhywbeth i'w ddarganfod gan eraill, ac nid gan y dyn ei hun, ydyw y cymhwysder i fod yn flaenor. Yr ydym yn tueddu i feddwl fel hyn wrth ddychymygu atebiad un a fyddai wedi ei ddewis i fod yn flaenor pan ofynid y cwestiwn iddo yn y Cyfarfod Misol, "Beth ydyw eich teimlad gyda golwg ar waith yr eglwys yn eich galw i fod yn flaenor iddi? " Pe yr atebai, " Wel, yn wir, yr wyf yn meddwl fod yr eglwys wedi gwneyd yn gall iawn. Yr oedd arnaf chwant mawr er ys blynyddoedd am gael bod yn flaenor, ac yr wyf yn meddwl y gallaf wneyd un rhagorol, ac y bydd yr eglwys ar ei mantais yn fawr iawn o herwydd y dewisiad hwn, "—oni chreai hyn gyffro? ac onid elwid pwyllgor ynghyd ar unwaith i ystyried achos y brawd gonest?