Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y tân. Eisteddodd i lawr yn bwyllog; gosododd ei draed un ar bob pentan; taniodd ei bibell, trôdd ddalenau y Dyddiadur yn hamddenol nes dyfod at restr pregethwyr ei sir; ac yna safodd—sefydlodd ei hun i lawr yn ei gader, cymerodd sugndyniad neu ddau lled nerthol o'r bibell i sicrhâu fod yno dân, a chymerodd y pwyntil allan o'i logell. Yr oedd Bob, er yn cymeryd arno fyned ymlaen hefo ei waith, yn ei wylio yn ddyfal, a malais yn chwareu yn nghonglau ei lygaid, tra y clywai ei feistr yn siarad âg ef ei hun:

"Wel, ddoi di ddim yma eto; na thithe; unwaith yn y flwyddyn yn ddigon i tithe; unwaith bob dwy flynedd yn hen ddigon iddo fo," &c. Wedi dyhysbyddu y rhestr, a phenderfynu tynged pob un, dywedai Meistr Rhodric yn y man,

"Bob, sut y mae dy dad yn meddwl y troith hi nos Iau? "

"Mae o yn meddwl y caiff Mr. Jones ei ddewis, syr," ebe Bob.

"Purion; pwy arall? " "Dydi o ddim yn siŵr am neb arall, syr."

"Chlywest ti mono fo yn deyd dim byd am dana i? "

"Daeth y cwestiwn hwn mor sydyn ar Bob, druan, fel na wyddai yn iawn sut i'w ateb a chadw y ddysg! yn wastad.

"Tyr'd, tyr'd, y machgen i, paid ofni deyd y gwir."

Wel, mi clywes o yn deyd rhwbeth, syr."

"Deyd beth? allan a fo, Bob."