Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

36 A’r holl gynnulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

37 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenhedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.

39 A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchymynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ol eich calonnau eich hunain, nac yn ol eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hol:

40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchymynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw.

41 Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Dduw.


Pennod XVI.

1 Gwrthryfel Corah, Dathan, ac Abiram. 23 Moses yn gwahanu y bobl oddi wrth bebyll y gwrthryfelwyr. 31 Y ddaear yn llyngcu Corah: a thân yn difa y lleill. 36 Cadw y thusserau er mwyn defnydd sanctaidd. 41 Lladd pedair mil ar ddeg a saith gant, am rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron. 46 Aaron, trwy arogl-darthu, yn attal y pla.

Yna Corah, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymmerasant wŷr:

2 A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, pennaethiaid y gynnulleidfa, pendefigion y gymmanfa, gwŷr enwog.

3 Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?

4 A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.

5 Ac efe a lefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesâu atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe atto.

6 Hyn a wnewch: Cymmerwch i chwi, sef Corah a’i holl gynnulleidfa, thusserau;

7 A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl-darth y fory ger bron yr Arglwydd: yna bydd i’r gwr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi.

8 A dywedodd Moses wrth Corah, Gwrandêwch, attolwg, meibion Lefi.

9 Ai bychan gennych neillduo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel, gan eich nesâu chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt?

10 Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyd â thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11 Am hynny tydi a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?

12 ¶ A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fynu.

13 Ai bychan yw dwyn o honot ti ni i fynu o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffaethwch, oddi eithr hefyd arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?

14 Etto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.

15 Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy; ni chymmerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un o honynt.

16 A dywedodd Moses wrth Corah, Bydd di a’th holl gynnulleidfa ger bron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, y fory.

17 A chymmerwch bob un ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth; a dyged pob un ei thusser ger bron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thusserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thusser.

18 A chymmerasant bob un ei thusser, a rhoddasant dân ynddynt,