a gosodasant arogl-darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron.
19 Yna Corah a gasglodd yr holl gynnulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynnulleidfa.
20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
21 Ymneillduwch o fysg y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt ar unwaith.
22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
23 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
24 Llefara wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Corah, Dathan, ac Abiram.
25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ol ef.
26 Ac efe a lefarodd wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, attolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.
27 Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.
28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.
29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i.
30 Ond os yr Arglwydd a wna newydd-beth, fel yr agoro y ddaear ei safn, a’u llyngcu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31 ¶ A bu, wrth orphen o hono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy.
32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyngcodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Corah, a’u holl gyfoeth.
33 A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyd â hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gauodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynnulleidfa.
34 A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoisant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyngcu ninnau.
35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymmu yr arogl-darth.
36 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
37 Dywed wrth Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, am godi o hono efe y thusserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt:
38 Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymmasant hwynt ger bron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.
39 A chymmerodd Eleazar yr offeiriad y thusserau pres, â’r rhai yr offrymmasai y gwŷr a losgasid; ac estynwyd hwynt yn gaead i’r allor:
40 Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesâo gwr dïeithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth ger bron yr Arglwydd; ac na byddo fel Corah a’i gynnulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
41 ¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.
42 A bu, wedi ymgasglu o’r gynnulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.
43 Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.
44 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
45 Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt yn ddisymmwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.