efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32 Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon o hono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
Pennod XIX.
1 Y dwfr neillduaeth a wneid o ludw anner goch. 11 Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro yr aflan.
Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
2 Dyma ddeddf y gyfraith a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt attat anner goch berffeith-gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.
3 A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef.
4 A chymmered Eleazar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.
5 A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe.
6 A chymmered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.
7 A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.
8 Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
9 A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded y’nghadw i gynnulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neillduaeth: pech-aberth yw.
10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragywyddol.
11 ¶ A gyffyrddo â chorph marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.
12 Ymlanhâed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.
13 Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd etto arno.
14 Dyma y gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.
15 A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.
16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, âg un wedi ei ladd â chleddyf, neu âg un marw, neu âg asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.
17 Cymmerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder atto ddwfr rhedegog mewn llestr;
18 A chymmered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd âg asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:
19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhâed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.
20 Ond y gwr a haloger, ac nid ymlanhao, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynnulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neillduaeth; aflan yw efe.
21 A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y neillduaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neillduaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr.
22 A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan âg ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.
Pennod XX.
1 Plant Israel yn dyfod i Sin; lle y bu farw Miriam. 2 Hwynt-hwy yn tuchan o eisieu dwfr. 7 Moses yn taro y graig, ac yn dwyn allan ddwfr ym Meribah. 12 Cospedigaeth Moses ac Aaron, am eu petrusedd. 14 Moses yn Cades yn deisyfu ffordd i dramwy trwy Edom; ac yn cael ei naccâu. 22 Aaron yn rhoddi i fynu ei le i Eleazar, ac yn marw.