Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin yn y mis cyntaf; ac arhôdd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi.

2 Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.

3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr ger bron yr Arglwydd!

4 Paham y dygasoch gynnulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw o honom ni a’n hanifeiliaid ynddo?

5 A phaham y dygasoch ni i fynu o’r Aipht, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i’w yfed?

6 A daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.

7 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

8 Cymmer y wïalen, a chasgl y gynnulleidfa, ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dïoda y gynnulleidfa a’u hanifeiliaid.

9 A Moses a gymmerodd y wïalen oddi ger bron yr Arglwydd, megis y gorchymynasai efe iddo.

10 A Moses ac Aaron a gynnullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?

11 A Moses a gododd ei law, ac a darawodd y graig ddwy waith â’i wïalen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynnulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.

12 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt.

13 Dyma ddyfroedd Meribah; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd; ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14 ¶ A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenhin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:

15 Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau.

16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aipht: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwrr dy ardal di.

17 Attolwg, gâd i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: prif-ffordd y brenhin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di.

18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod.

19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y brif-ffordd yr awn i fynu; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed.

20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod âg ef, â phobl lawer, ac a llaw gref.

21 Felly Edom a naccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.

22 ¶ A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,

24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhâu i’m gair, wrth ddwfr Meribah.

25 Cymmer Aaron ac Eleazar ei fab, a dwg hwynt i fynu i fynydd Hor;

26 A dïosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.

27 A gwnaeth Moses megis y gorchymynodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fynu i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynnulleidfa.

28 A dïosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleazar ei fab ef: