Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynodd Moses ac Eleazar o’r mynydd.

29 A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.

Pennod XXI.

1 Israel trwy beth colled yn difetha y Canaaneaid yn Hormah. 4 Y bobl yn tuchan, ac yn cael eu brathu gan seirph tanllyd; 7 ac ar eu hedifeirwch yn cael eu hiachâu gan y sarph bres. 10 Amrwy deithiau yr Israeliaid. 21 Gorchfygu Sehon, 33 ac Og.

A’r brenhin Arad, y Canaanead, preswylydd y dehau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai o honynt yn garcharorion.

2 Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.

3 A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Hormah.

4 ¶ A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.

5 A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aipht, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.

6 A’r Arglwydd a anfonodd ym mysg y bobl seirph tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.

7 ¶ A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru o hono ef y seirph oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.

8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarph danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.

9 A gwnaeth Moses sarph bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarph wr, ac edrych o hono ef ar y sarph bres, byw fyddai.

10 ¶ A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.

11 A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant y’ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tu a chodiad haul.

12 ¶ Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Zared.

13 Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Amon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid.

14 Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,

15 Ac wrth raiadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.

16 Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.

17 ¶ Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.

18 Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd pennaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattanah:

19 Ac o Mattanah i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: .

20 Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd y’ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch.

21 ¶ Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenhin yr Amoriaid, gan ddywedyd,

22 Gâd i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenhin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di.

23 Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.

24 Ac Israel a’i tarawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.

25 A chymmerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel