yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.
26 Canys dinas Sehon, brenhin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenhin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.
27 Am hynny y dywed y dïarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhâer dinas Sehon.
28 Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchennogion Bamoth Arnon.
29 Gwae di, Moab; darfu am danat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dïangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenhin yr Amoriaid.
30 Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Nophah, yr hon sydd hyd Medeba.
31 ¶ A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.
32 A Moses a anfonodd i chwilio Jazer: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33 ¶ Troisant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan: ac Og brenhin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl.
34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
35 Am hynny y tarawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.
Pennod XXII.
1 Cenhadon cyntaf Balac yn cael nâg gan Balaam. 15 Ei ail-genhadon ef yn cael ganddo ddyfod. 22 Angel a’i lladdasai ef, oni buasai i’w asen ei waredu ef. 36 Balac yn ei groesawu ef.
A meibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho.
2 ¶ A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid.
3 ac ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.
4 ¶ A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ŷch wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenhin ar Moab yn yr amser hwnnw.
5 Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.
6 Yr awr hon, gan hynny, tyred, attolwg, melldithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melldigedig fydd yr hwn a felldithiech.
7 A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, a gwobr dewiniaeth yn eu dwylaw: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.
8 A dywedodd yntau wrthynt, Llettŷwch yma heno; a rhoddaf i chwi atteb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arhosasant gyd â Balaam.
9 A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy yw y dynion hyn sydd gyd â thi?
10 A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenhin Moab, a ddanfonodd attaf, gan ddywedyd,
11 Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan.
12 A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyd â hwynt; na felldithia y bobl: canys bendigedig ydynt.
13 A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a naccaodd adael i mi fyned gyd â chwi.
14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Naccaodd Balaam ddyfod gyd â ni.
15 ¶ A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn.
16 A hwy a ddaethant at Balaam;