Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º12 A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath.

º13 Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.

º14 Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi, paham y dygasoch ef ataf fi?:

º15 Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m ty i?

PENNOD 22

º1 A DAFYDD a aeth ymaith oddi yno, ac a ddihangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dy ei dad ef hynny, hwy a aethant i waered ato ef yno.;

º2 Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr.

º3 A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a’m mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnel Duw i mi.

º4 Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.

º5 A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr arnddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Jwda. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.

º6 A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a’r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;)

º7 Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;

º8 Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair a mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod I’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn?

º9 Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub.

º10 Ac efe a ymgynghorodd drosto ef

ft’r ARGLWYDD; ac a roddes fwyd iddo vf; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes rf’e hefyd iddo.

º11 Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a lioll dy ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y hrenin.

º12 A Saul a ddywedodds Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.

º13 A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab’ Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ;ic ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw?

º14 Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon a Dafydd, ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?

º15 Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori a Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dy fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer.

º16 A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl fly dy dad.

º17 A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr AR¬GLWYDD; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweis-