Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/565

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwirionedd yn Bochim.' Yr oeddem, yn mhell cyn gorphen y bregeth, yn hollol yr un farn a'n hanwyl fam am y pregethwr, ac ni chollodd byth ei dylanwad arnom. Yr oedd holl flinder y cerdded o Gaergybi wedi myned ymaith wrth wrando arno; ac yr oeddem yn edrych yn mlaen gyda hyfrydwch at y wledd oedd yn ein haros yn Amlwch, pan y caem ei glywed ef drachefn, yn gystal a'r gwŷr enwog eraill a ddysgwylid yno."

Cafodd Dr. Thomas ei glywed yn Amlwch, ond nid yw yn rhoddi adroddiad o'r odfa. Eithr hysbysa mai Mr. David Jenkins, Llanilar, cyfaill Mr. Richard ar ei daith, oedd yr hwn a bregethai yn gyntaf yn Llanerchymedd; ac mai hen ŵr, trwm ei glyw, o'r gymydogaeth oedd yr un a safai gerllaw iddo yn y pwlpud, yr hwn yr ofnai y llanc ei fod wedi dyfod yn lle Mr. Richard.

Y mae amryw o bregethau y Parch. Ebenezer Richard yn argraffedig; ceir tair yn y Gofadail Fethodistaidd, yr ail gyfrol, o ba rai y mae dwy bregeth wedi eu hysgrifenu yn bur llawn. Dygant yn amlwg ôl llaw meistr celfydd. Y maent yn frith o sylwadau cyrhaeddgar, tlysion, ac yn llwythog o efengyl. Awgrymant nad i gyfeiriad yr athrawiaethol y tueddai meddwl Mr. Richard, er nad oedd yn amddifad o fedr i drin pynciau; eithr yn hytrach mai ei hoff waith oedd cymhell pechaduriaid at Grist, a dangos digonolrwydd y Ceidwad ar eu cyfer. Gallwn ychwanegu ei fod lawn mor boblogaidd yn Nhregaron, a'r cymydogaethau o gwmpas, ag ydoedd trwy y wlad yn gyffredinol. Ni fynai pobl ei gartref fod pregethwr yn Nghymru yn rhagori arno; na bod neb yn wir i'w gystadlu âg ef, oddigerth John Elias ac Ebenezer Morris.

Perchenogai mewn cyflawnder holl gymhwysderau arweinydd. Yr oedd craffder arbenig ei sylwadaeth, tuedd ymarferol ei feddwl, ei ddeheurwydd gydag amgylchiadau, ei fedr i drin dynion, yn nghyd a pharodrwydd ei ddawn, a'i wroldeb, pan fyddai angen, yn ei gymhwyso yn arbenig at arwain. Yn y Dê, efallai na fyddai gymaint yn y golwg, oblegyd ei fod yn gweithredu fel ysgrifenydd; eithr efe a fyddai o'r tu ol i'r llen yn tynu wrth bob gwifren. Gwyddai yn dda pwy i'w osod i gyflawni gwahanol orchwylion. Yn Nghymdeithasfa Gwynedd byddai ei ddylanwad yn. cael ei deimlo, ac efallai y byddai fwy yn y ffrynt. Nid unwaith, pan fyddai Mr. Elias wedi poethi o ran ei dymher, ac wedi cael ei gamarwain gan gludwyr chwedlau, y dygodd Mr. Richard y llestr i'r dyfroedd tawel, ac yn anuniongyrchol y gweinyddodd gerydd esmwyth ar Elias ei hun.

Yr ydym wedi cyfeirio yn barod ato yn cyfryngu yn Nghymdeithasfa y Bala, 1835, pan yr ymosodai Mr. Elias ar y Parch. John Jones, Talsarn, gan awgrymu ei fod yn cyfeiliorni oddiwrth y ffydd. Gallasai pethau fyned yn dra annghysurus yno, oni bai i Mr. Richard neidio i'r adwy. Gyda bod Mr. Elias yn eistedd, dyna ef ar ei draed, ac meddai: "Os ydym am gael Yspryd Duw atom, ac i aros gyda ni, ac i weithio trwom ac yn ein plith, nid oes dim yn fwy angenrheidiol nag i ni ofalu am ein hysprydoedd ein hunain. Ni a allwn ddeall pa fath Yspryd ydyw ef oddiwrth ei ffrwythau. Ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest.' Y mae pob terfysg a chynwrf yn groes iawn i'w natur ef, ac yn ei anfoddloni yn fawr. Un hawdd iawn i'w dychrynu yw y golomen fach. Nid oes dim yn blino y Golomen nefol yn fwy na 'chynenau, gwynfydau, ymrysonau,' a'r pethau yn tueddu at hyny. Chwi a'i gyrwch i ffordd yn mhell oddiwrthych, os daw dim fel yna i mewn i'ch plith." Teimlodd Mr. Elias yn ddiau fin y sylwadau; o'r ochr arall, teimlai y Gymdeithasfa fod cerydd anuniongyrchol Mr. Richard yn ddigonol; adferwyd heddwch i'r Gynhadledd, a gorphenwyd y cyfarfod mewn yspryd rhagorol.

Adrodda Dr. Owen Thomas am dro arall, nid annghyffelyb, mewn Cymdeithasfa yn Nghaernarfon. Cwynid fod crefydd yn isel, ac yr oedd amryw o'r hen frodyr yn tueddu i ymosod ar y pregethwyr ieuainc, fel rhai anysprydol, ac amddifad o'r rhagoriaethau a nodweddent yr hen bobl. Felly gwnelai Mr. Elias. "Y mae yn rhaid i mi dystio," meddai, "fod clauarineb, a chnawdolrwydd, a hyfdra ansanctaidd, liaws o grefyddwyr ac ambell bregethwr, yn y dyddiau hyn, yn flinder mawr i mi, yn enwedig wrth eu cymharu â'r rhai yr wyf yn gofio. Byddaf yn meddwl yn fynych am eiriau Micah: Gwae fi! canys yr ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhauaf gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf.' Mi a chwenychwn