fyw gyda rhai mwy sanctaidd; nid oes ond ychydig yn meddwl am grefydd, a'r rhai hyny yn dra gwahanol i'w tadau. O! yr addfed ffrwyth cyntaf!'—eu hedifeirwch dwfn, eu gostyngeiddrwydd mawr, eu ffydd gref, eu cariad tanllyd, eu hymddiddanion sanctaidd, eu hymddidoliad oddiwrth y byd, eu cysegredigaeth i grefydd. Nid oes bosibl cofio am danynt, a'u cymharu â chrefyddwyr clauar, ffurfiol, cnawdol, y dyddiau hyn, heb deimlo hiraeth mawr ar eu hol. Fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf!"
Llefarai gyda theimlad dwys, ac yr oedd effeithiau anarferol ar yr holl gyfarfod. Ond teimlai Mr. Richard fod y pwn yn troi ormod un ochr, a phan y galwyd arno i siarad, dywedodd: "Y mae yn dda genyf finau gofio yr hen bobl, ein hen dadau anwyl; ac y mae pob cyfeiriad atynt yn cyffwrdd a llinynau tyneraf fy nghalon. Yr oeddwn yn awr, wrth glywed mor ardderchog am danynt, yn hiraethu ar eu hol fel y gallaswn wylo. O! eu gweddïau taer ! O! eu zêl fawr! O! eu llafur caled! O! eu pregethu bywiog! O! eu gwrando cynhes, teimladol! Y mae arnaf hiraeth y foment yma am danynt. Ond nid daioni oedd ganddynt hwythau i gyd. Yr oedd y Meistr mawr yn cael llawer o waith maddeu iddynt hwythau. Ac yr oeddent yn gwneyd yn dda iawn ar dir maddeuant. Ië, ar dir maddeuant, cofiwch. Hwyrach hefyd y goddefai y Tad nefol lawer o bethau ynddynt hwy na byddai mor hawdd ganddo fyned heibio iddynt ynom ni. Yr ydym ni wedi cael llawer iawn o fanteision na chawsant hwy. Edrychwch ar y plentyn bach ar fraich ei fam; ac am na chaiff ei ffordd ei hun y mae gyda holl nerth ei fraich fach yn slapo ei boch hi; a'r tad yn chwerthin wrth edrych arno. Pe buasai bachgen deunaw oed yn gwneyd hyny fe gawsai ei droi dros y drws. Yr ydych chwi wedi myned yn llanciau; gwyliwch slapo'r fam, rhag i'r Tad ddigio!" Ychwanega Dr. Thomas: "Ni welsom odid un amser sylwadau yn effeithio yn fwy dedwydd. Yr oeddent y cyflenwad goreu a allesid gael i'r sylwadau blaenorol, ac yn cael eu teimlo felly gan yr holl frawdoliaeth."
Eithr o holl anerchiadau Mr. Richard y mwyaf effeithiol, yn ddiau, oedd yr un a draddododd yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 15 a'r 16, 1836; yr olaf o Gym deithasfaoedd y Bala iddo ef. Oblegyd ei ddawn a'i newydd-deb, yr oedd disgwyliad mawr am dano, a phan y cododd yr oedd pawb yn llygaid ac yn glustiau i gyd. "Wel," meddai, "y mae yn debyg eich bod yn dweyd yn eich meddyliau, Dyma y gôg eto; yr un dôn sydd ganddi hi fyth; dim ond un cw-cw y naill flwyddyn ar ol y llall.' Ond os yr un dôn sydd ganddi, ffryndiau, nid yw ei swn yn arwyddo dim drwg, y mae yn hytrach yn dywedyd fod yr haf yn agos. Ac at waith yr efengyl yr wyf am eich gwahodd eleni eto. Y mae genym Gymanfa i gael ei chynal y chweched a'r seithfed o'r mis nesaf, mis Gorphenaf, yn y Twrgwyn, yn Sir Aberteifi; hen le cysegredig, hen gartref dynion Duw, ond lle na fu Cymanfa gan y Methodistiaid erioed o'r blaen. Hi a fydd y gyntaf yno; ac y mae arnaf eisiau cyhoeddiadau fy mrodyr anwyl o'r Gogledd i anrhydeddu ei dechreuad. Nid ydwyf am gymeryd fy ngomedd genych y tro hwn. Rhaid i chwi gyd-ddwyn â mi am fod yn daer arnoch y waith hon, oblegyd eich gwahodd i ddinas beddrod fy nhadau yr ydwyf. Chwi gewch bregethu yn ymyl y fan lle y gorwedd llwch y gwrol Dafydd Morris, a'r enwog Ebenezer Morris, y cewri hyny fu yn bloeddio ar y Cymry i ddeffroi o'u cwsg. Ac heblaw hyny, nid wyf am eich blino chwi mwy. Yr wyf wedi codi dan deimladau difrifol y tro hwn; y mae rhyw argraff ar fy meddwl mai dyma y tro olaf am byth i mi eich anerch fel hyn yn y Bala. Yr wyf wedi cyrhaedd blwyddyn fy mrodyr" (cyfeiriad at Mr. Ebenezer Morris a Mr. David Evans, Aberaeron, y rhai a fuont feirw ill dau yn yr unfed-flwyddyn-ar-bymtheg-a-deugain o'u hoedran); "ac y mae rhywbeth ynof yn dweyd y bydd yn flwyddyn i minau; a chyn y bydd Sasiwn eto yn y Bala, y byddaf fi wedi myned oddiar y maes, yn gorwedd â'm cleddyf dan fy mhen." Tra y llefarai fel hyn yr oedd ei lygaid mawrion, prydferth, yn arllwys y dagrau gloywon, a'r holl frawdoliaeth yn cydwylo, heb gymaint ag un a llygad sych. Methodd gael addewid gan Mr. Elias, ond cydsyniodd y Parch. Henry Rees a'i gais.
Rhagorai mewn medr gyda'r Ysgol Sabbothol. Braidd na ellir edrych arno fel tad yr Ysgol Sul yn y Dê. Os oedd ysgol Sabbothol wedi cael ei chychwyn yn flaenorol mewn rhai lleoedd, eiddil a didrefn ydoedd; eithr ymroddodd efe i anadlu anadl einioes ynddi, gan ddarostwng ei holl beirianwaith dan drefn briodol. Efe sefydlodd y Cyfarfodydd Dau Fisol yn y Deheudir. Cyfan