Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/567

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

soddodd hefyd reolau manwl iddi, y rhai a fabwysiadwyd yn gyffredinol, ac ydynt i raddau mawr mewn grym hyd y dydd hwn. Llafuriodd mewn amser ac allan o amser gyda'r sefydliad gwerthfawr hwn; teithiodd lawer i'r Cymanfaoedd Ysgolion, a byddai ei bresenoldeb yn sicrhad o gymanfa dda. Credwn na chododd ei debyg yn Nghymru fel holwr pwnc. Fel hyn yr ysgrifena Mr. Daniel Davies, Ton:Y Drysorfa, Mehefin, 1888. "Er mor ddylanwadol oedd Mr. Richard wrth bregethu, nid oedd yn fwy felly nag y byddai wrth holwyddori; o'r ddau, yr oedd y dylanwad a fyddai yn cydfyned â'i waith yn holwyddori yn gryfach, neu o leiaf yn fwy cynhyrfus, na'r dylanwad a fyddai yn cydfyned â'i bregethu, oddieithr ar rai adegau hynod a neillduol iawn. BendithBendith iwyd ei lafur yn y dull hwn i fod yn foddion argyhoeddiad llawer iawn. Cawsom fantais i adwaen rhai o'r cyfryw. Un o honynt oedd y diweddar Samuel Rowland, Tymawr, gerllaw Llanddewibrefi, aelod o'r teulu ag y perthynai yr enwog Rowland, Llangeitho, iddo. Yr oedd Mr. Richard yn holi pwnc ar ddydd y farn mewn Cymanfa Ysgolion yn Llanddewibrefi; ac er y gallesid ateb agos yr holl gwestiynau a ofynai gydag ïe, neu nage, do, neu naddo, yr oedd yr holwr wedi llwyddo i bortreadu y dydd mawr mor fyw, a'i ddwyn mor agos at feddyliau y gynulleidfa, nes yr oedd braw a dychryn wedi llenwi mynwesau llawer oedd yn bresenol. Ar ganol yr holi rhoddodd Samuel Rowland ysgrech gyffrous, fel pe byddai rhywun yn ei drywanu, nes peri cyffro mawr yn y gynull eidfa, a chlywsom rai oedd yn bresenol yn dweyd nas gallent byth anghofio yr amgylchiad. Yr oedd Samuel Rowland yr adeg hon yn ddyn ieuanc cryf a hoyw, ac yn tueddu i fyned yn wyllt, fel y dywedir; ond o hyny allan yr oedd yn ddyn arall. Bu fyw am rai degau o flynyddoedd ar ol y tro hwnw, ac yr oedd ei fywyd bob amser yn brawf o wirionedd y cyfnewidiad a weithredwyd ynddo yn y Gymanfa Ysgolion.

Cynyrchid yr effeithiau mwyaf rhyfeddol weithiau pan fyddai Mr. Richard yn holi, trwy ei waith yn peri i'r ysgol adrodd, ac ail-adrodd drosodd a throsodd drachefn, adnod, neu ddarn o adnod, fyddai yn cael ei chynwys yn y "pwnc," neu y digwyddid ei hadrodd gan rywun mewn atebiad i gwestiwn. Člywsom am dano unwaith yn tanio cynulleidfa wrth yn unig adrodd enw y Gwaredwr. Ar ol gofyn pwy a anfonwyd i waredu dynolryw, ac i'r ysgol ateb, Iesu Grist, torodd allan mewn tôn orfoleddus i ganmol yr enw bendigedig; yna gwahoddai hwynt i'w adrodd drachefn, a gwnaent hwythau hyny yn fwy gwresog na'r tro cyntaf. "Yn wir," meddai yntau, "fe ellid meddwl wrth eich gwaith yn ei adrodd eich bod chwithau yn hoff o'r enw, ac y byddai yn dda genych gael ei ddywedyd eto." Yna gofynodd yr un cwestiwn drachefn, ac atebodd yr ysgol eilwaith, "Iesu Grist;" ac felly yr aed yn mlaen am beth amser, efe yn canmol yr enw, a'r ysgol yn ei adrodd, nes yn y diwedd y torodd allan yn orfoledd trwy yr holl gynulleidfa.

Weithiau cymerai adnod i fynu, a gwnai ychydig o sylwadau arni, ei hun, nes cynyrchu y teimladau mwyaf angherddol. Sylwai unwaith ar y geiriau hyny: "A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau." "Dyna," meddai, "yw'r hanes am lawer yn y gynulleidfa hon, a phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt,' ac yr wyf yn credu na ddigia y Maddeuwr mawr wrth y creadur gwael sydd ger eich bron am wneyd yn hyf arno am unwaith, a chyfaddef mai felly y bu arno yntau, pan oedd ei achos yn cael ei drin yn y llys fry, ac yntau yn ofni mai y carchar oedd yn ei aros, dyna fel y trodd hi allan yn y diwedd arno; A phryd nad oedd ganddo ddim i dalu efe a faddeuodd iddo.' Yr oedd mewn teimladau dwysion iawn pan yn dechreu llefaru; ond wrth gymhwyso yr adnod at ei achos ei hun, a phan yn ei hadrodd yr ail waith, gosododd ei ddwylaw ar ei wyneb, a thorodd allan i wylo yn uchel, ac erbyn hyny yr oedd pawb yn y lle yn wylo gydag ef, nes y gallesid galw yr holl gynulleidfa yn dra phriodol Bochimrhai yn wylo.

Adroddai y Parch. Thomas Rowlands, Aberdar, wrthym ei fod yn bresenol mewn Cymanfa Ysgolion yn Llanddewibrefi, yn y flwyddyn 1832, adeg y diwygiad cyn y diweddaf. Yr oedd y tair adnod olaf yn yr 11eg benod o Matthew yn rhan o'r pwnc: "Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog," &c. Gofynai Mr. Richard: "Pwy sydd yn galw?" ac atebai yr ysgol, "Iesu Grist." Yna gofynai: "Ar bwy y mae yn galw? Pa nifer sydd yn cael eu galw ganddo?" Yna safai i synu fod y fath un yn galw y fath rai, ac yn galw pawb o'r fath; a gofynai