Tudalen:Yn y Wlad.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pellaf yn ol yr ewch, pruddach a mwyaf diobaith yr â'r englynion. Ar fedd Edward Thomas, Llwyn Derw, fu farw yn 1858, yn bedwar ugain ond pedair, pan oedd gwres y Diwygiad yn y wlad, ceir

"Gŵr diwyd, Cristion gwir dawel,—hunodd;
Y fan hon mae'i argel:
Ei enaid aeth lle nad el
Unrhyw och, mae'n rhy uchel."

Cyn hynny, yn 1853, ar fedd David Howells o Garreg y Big, fu farw'n ddeugain oed, ceir y llinellau prudd,—

"Pob glân, pob oedran, pawb bydrant,
Pob einioes, pawb anwyd, ddiflannant,
Pob lliw, llun, pob un, pawb ant,
Pob graddau, pawb gorweddant."

Daw efengyl burach a llawenydd mwy. Marw, dianc, byw,—dyma dri chyfnod ar englynion Llanerfyl.

Ond rhaid i ni brysuro ymlaen. Pentref bach tlws yw Llangadfan, ddwy filltir ymlaen. Y mae'r eglwys a'r persondy, yr ochr arall i'r afon, ar safiad hyfryd. Cefais brynhawn hapus gyda gŵr a gwraig y persondy, hi'n dirion fonheddig ac yntau'n efengylydd tyner a dwys. O'r cartref dedwydd a chroesawgar hwn gwelir cymoedd Cledau a'r Afon Gam, sy'n ymuno a'i gilydd rhwng Dol Hywel a Chae'r Bwla, ac yn dod i afon Banw ger Llangadfan. Dol Hywel yw cartref William Jones, bardd a hynafiaethydd enwog oedd yn byw o 1727 hyd 1795. Cyfieithodd Horas ac Ofydd i'r Gymraeg, casglodd hanes Llangadfan, ac ysgrifennodd gyfieithiad melodaidd o'r Salmau. Yr oedd yn feddyg enwog, yn enwedig ynglŷn âg anhwylderau