Tudalen:Yn y Wlad.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

croen, oedd yn gyffredin yr adeg honno. Gwellhaodd ei hun, ac yna ymroddodd i wella eraill. Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd i'r wlad, trodd ei awen gref yn ffrewyll i Howel Harris. Y mae ei lawysgrifau yn rheithordy Llangadfan. Claddwyd ef yng nghefn eglwys Llangadfan; ond ni ŵyr neb ple mae ei fedd. Cae'r Bwla yw llecyn yr hen gerdd boblogaidd honno,—"Cerdd y Spotyn Du." Ar y ffordd i fyny at Nant yr Eira y mae lle o'r enw mwyaf cysurus a glywais i erioed, sef Gwern Claeargoed.

O'r fynwent ceir golygfa ardderchog ar fynyddoedd, yr Aran yn eu plith. Ymysg y llu sy'n gorwedd yma y mae Gutyn Padarn, fu'n rheithor am naw mlynedd ar hugain, ac yn ei ymyl hen ysgolfeistr, John Williams, fu yma am wyth mlynedd ar hugain. Dyma'r fynwent fwyaf Cymreig bur welais yn unlle erioed.

Wedi gadael Llangadfan, un plwy eto sydd yn nyffryn Banw, sef Garthbeibio. Tra'n teithio ymlaen hyd y pedair milltir neu bump at y pentref, yr oedd glendid y tai yn amlwg. Cawsom ddigon o brofiad hefyd, mai pobl ddarllengar yw'r bobl. Cynhaeaf bron didor sydd ar waelod Garthbeibio, gwair, yd, rhedyn, pytatws, mwsogl, mawn. Ac ar y bryniau y mae miloedd o ddefaid, ar Fynydd y Gadfa a Charreg y Fran un ochr, ac ar y Ffridd Goch a Bryn Ysguthan yr ochr arall. Clywais enwau cŵn yr ardal i gyd o lethrau'r mynyddoedd, a phrif elfennau cymeriad rhai ohonynt, yn enwedig Toss. A phwy sydd a lleisiau mor glir a bugeiliaid? Saif yr eglwys ar fryncyn uwchlaw'r pentref bychan, ac uwchlaw'r lle'r ymuna Twrch a Banw â'i gilydd.